Pa gyfrifoldebau eraill sydd gan feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia?
- Crynodeb
- Beth yw’r safonau proffesiynol?
- Pa gyfrifoldebau eraill sydd gan feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia?
Safonau ymddygiad
Mae'n hanfodol fod cleifion yn gallu ymddiried yn eu meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Er mwyn cyfiawnhau eich ymddiriedaeth ynddynt hwy a’u proffesiwn, mae angen i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia weithredu’n onest a didwyll. Er enghraifft drwy wneud y canlynol:
- bod yn onest am eu profiad, eu cymwysterau a’u rôl bresennol
- bod yn onest wrth ddelio â materion ariannol a masnachol
- rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyfranogwyr yn gyntaf wrth ddylunio, trefnu neu gynnal ymchwil
Gan fod cymdeithas yn ymddiried mewn meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia mae’n bwysig eu bod yn meddwl am y pŵer sydd ganddynt ac nad ydynt yn cymryd mantais ar yr ymddiriedaeth honno. Er enghraifft, rhaid iddynt beidio â gwneud y canlynol:
- manteisio ar eich diffyg gwybodaeth feddygol wrth gyfathrebu â chi
- gweithredu mewn ffordd rywiol na defnyddio eu statws proffesiynol i ganlyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol â chi neu rywun sy’n agos atoch chi
- siarad am eu credoau personol (gan gynnwys credoau gwleidyddol, crefyddol a moesol) mewn ffyrdd sy'n manteisio ar eich natur agored i niwed neu a allai, yn rhesymol, achosi gofid i chi
- eich difrïo, gwahaniaethu yn eich erbyn na’ch bwlio chi neu glaf arall
Cynnal sgiliau a gwybodaeth
Mae’n bwysig bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn dilyn canllawiau a safonau, ac yn gweithio o fewn eu cymhwysedd. Ac rydym yn disgwyl iddynt ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy gydol eu gyrfa.
Mae hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn rhan allweddol o unrhyw system gofal iechyd ac mae disgwyl iddynt rannu gwybodaeth a sgiliau gyda chydweithwyr. Gallai hyn fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol.
Ni all myfyrwyr sy’n astudio i fod yn feddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia ddysgu popeth y mae angen iddynt ei wybod o lyfrau a byddant, ar adegau, yn rhan o'r tîm. Os byddai'n well gennych chi beidio â helpu gyda hyfforddiant myfyrwyr am unrhyw reswm, mae gennych yr hawl i wrthod.
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Mae'n bwysig eich bod yn gallu ymddiried nad yw eich meddyg, eich cydymaith meddygol neu'ch cydymaith anesthesia yn rhoi eu buddiannau eu hunain o flaen eich buddiannau chi. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig pan fydd meddyg yn rhagnodi triniaeth neu pan fydd cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn cynnig neu'n darparu triniaeth; neu os bydd eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn eich cyfeirio at arbenigedd arall.
Ar adegau, bydd gan feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia fuddiannau a allai effeithio ar y ffordd y mae’n darparu triniaethau neu’n atgyfeirio cleifion, neu’r ffordd y mae’n cyfathrebu â chi. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen iddynt fod yn agored ac yn onest am eu buddiannau. Ac os ydynt yn wynebu gwrthdaro rhwng buddiannau, efallai y bydd angen iddynt eithrio eu hunain rhag gwneud penderfyniad.
Cyfathrebu
Mae angen i unrhyw wybodaeth y mae meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia yn ei chyfathrebu – gan gynnwys gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion, neu hyrwyddo gwasanaethau neu gynnyrch – fod yn gywir, heb fod yn ffug na chamarweiniol. Mae hyn yn golygu bod disgwyl iddynt wneud y canlynol:
- cymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir
- peidio â hepgor gwybodaeth berthnasol yn fwriadol na dweud rhy ychydig am y risg o niwed
- peidio â chyflwyno barn fel ffaith ddiamau
Os ydych am wybod enw cofrestredig a/neu gyfeirnod GMC meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, gallwch ofyn iddynt am yr wybodaeth hon.
Mewn argyfwng
Mewn argyfwng, fel damwain car, mae meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn aml mewn sefyllfa dda i helpu. Ond bydd y cymorth y maent yn ei gynnig yn dibynnu ar eu sgiliau ac ar unrhyw opsiynau eraill sydd ar gael. Er enghraifft, os nad yw’r meddyg yn gymwys mewn adfywio cardio-ysgyfeiniol (CPR), efallai y bydd yn ffonio am ambiwlans yn lle hynny.