Sut dylwn i gael fy nhrin?
Penderfyniadau am eich gofal
Gallwch ddisgwyl i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eich trin yn deg, gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch – gan barchu eich urddas a’ch trin fel unigolyn. Mae’n bwysig eu bod yn gwrando arnoch chi ac yn gweithio gyda chi i asesu eich anghenion a’ch blaenoriaethau, ac yn cynnig gofal yn seiliedig ar yr asesiad hwn.
Rhaid iddynt rannu gwybodaeth glir a chywir â chi i’ch cefnogi i wneud y canlynol:
- deall eich cyflwr/cyflyrau
- deall yr opsiynau gofal sydd ar gael, gan gynnwys yr opsiwn i beidio â gweithredu
- gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eich gofal.
Mae'n bwysig eu bod yn cael eich cydsyniad (neu awdurdod dilys[1]), os nad oes gennych alluedd, cyn i chi gael eich archwilio neu eich trin. Os ydynt am eich cynnwys mewn rhaglen addysgu neu ymchwil, bydd angen iddynt hefyd gael eich cydsyniad.
Ni all unrhyw feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wybod popeth. Byddant yn gofyn am gyngor gan gydweithwyr lle bo hynny’n briodol, ac yn eich cyfeirio at ymarferydd arall sydd â’r cymwysterau priodol os oes angen. Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi am unrhyw ofal neu driniaeth arall yr ydych chi’n ei chael, ac yn gwneud yn siŵr bod unrhyw ofal neu driniaeth y maent yn ei hawgrymu neu’n ei rhoi yn gydnaws â hynny.
Os ydych chi’n teimlo nad ydynt wedi gwneud y diagnosis cywir neu nad ydynt yn cynnig y driniaeth iawn, gallwch ofyn am ail farn.
[1] Er enghraifft, ar gyfer plant, cydsyniad y rhiant, ar gyfer oedolion heb alluedd, awdurdod rhywun sydd ag atwrneiaeth gyfreithiol ac ati neu Orchymyn Llys, neu yn absenoldeb y pethau hynny, neu mewn argyfwng, yr archwiliad arfaethedig, triniaeth sydd er lles pennaf y claf.
Beth yw ystyr bod yn deg â chleifion?
- Nid oes lle i wahaniaethu mewn gofal iechyd. Gallwch ddisgwyl i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia beidio â chaniatáu i’w farn bersonol effeithio ar eich perthynas ag ef, na’r driniaeth mae’n ei darparu neu’n ei threfnu.
- Os oes gennych gyflwr sy'n rhoi pobl eraill mewn perygl, mae gennych hawl i gael gofal o hyd. Mae camau y gall meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia eu cymryd, fel gwisgo menig neu fwgwd – i leihau’r risg i’w iechyd neu ei ddiogelwch. Os nad yw’n gallu eich trin chi ei hun o hyd, bydd yn gwneud trefniadau eraill i chi gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnoch chi.
- Os gall meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia benderfynu pwy i’w drin yn gyntaf, gallwch ddisgwyl iddo roi blaenoriaeth i gleifion yn seiliedig ar eu hangen clinigol. Ni fydd yn gwrthod nac yn oedi triniaeth oherwydd ei fod yn credu bod eich gweithredoedd neu eich dewisiadau wedi cyfrannu at eich cyflwr.
- Os nad yw eisiau rhoi triniaeth benodol (er enghraifft, oherwydd cred grefyddol neu gred bersonol arall sydd ganddo), ni all eich atal rhag cael gafael ar y driniaeth os yw'n briodol ac yn diwallu eich anghenion. Nid oes rhaid iddo eich cyfeirio’n uniongyrchol at rywun a fydd yn darparu’r driniaeth. Ond mae angen iddo wneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gael gafael ar y driniaeth gan wasanaeth neu ymarferydd arall.
Beth yw ystyr trin cleifion â charedigrwydd, cwrteisi a pharch?
- Gallwch ddisgwyl i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia gyfathrebu’n sensitif ac yn ystyriol, yn enwedig wrth rannu gwybodaeth am eich diagnosis a’ch gofal. Nid yw hyn yn golygu peidio â rhannu gwybodaeth berthnasol a allai fod yn annymunol neu beri gofid.
- Mae'n bwysig eu bod yn cydnabod eich gwybodaeth a'ch profiad o'ch iechyd, ac yn cydnabod eich pryderon. Drwy wrando arnoch chi a pheidio â gwneud rhagdybiaethau am yr hyn sy’n bwysig i chi, gallant eich cefnogi i ddeall a gwneud penderfyniadau am eich gofal.
- Nid ydym yn disgwyl iddynt gytuno i bob cais, ond rydym yn disgwyl iddynt egluro’r rheswm dros yr opsiynau y maent yn eu cynnig.
- Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ystyried y gallech fod yn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydych yn ymddangos felly.
- P’un a oes modd cael iachâ ai peidio, mae’n bwysig eu bod yn cymryd eich poen a’ch gofid o ddifrif ac yn cymryd camau i wneud i chi deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel.
Diwallu eich anghenion unigol
Mae'n bwysig eich bod chi a'ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn deall eich gilydd er mwyn i chi allu gwneud penderfyniadau am eich gofal ar sail gwybodaeth.
Gallwch ddisgwyl iddynt ofyn i chi pa gymorth sydd ei angen arnoch. Mae hyn yn cynnwys unrhyw anghenion iaith neu gyfathrebu sydd gennych. Bydd y camau y byddant yn eu cymryd i ddiwallu eich anghenion yn dibynnu ar ddifrifoldeb a brys y sefyllfa, a’r adnoddau sydd ar gael, er enghraifft dehonglwyr.
Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddarparu gofal o safon dda, ac mae hyn yn berthnasol i ymgynghoriadau wyneb yn wyneb neu o bell (er enghraifft, dros y ffôn, cyswllt fideo, neu wasanaethau ar-lein eraill).
Mae gan wahanol arbenigeddau a chlinigau eu rheolau eu hunain o ran pryd maent yn cynnig ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb neu o bell. Ond os nad yw’n bosibl cwblhau’r ymgynghoriad yn ddiogel gan ddefnyddio un dull, mae’n bwysig eu bod yn cynnig dull arall sy’n ddiogel i chi. Er enghraifft, mewn ymgynghoriad dros y ffôn â meddyg teulu, os bydd angen i’ch meddyg neu gydymaith meddygol asesu cyflwr croen, gallai ofyn i chi uwchlwytho lluniau.
Os bydd anabledd yn golygu bod angen apwyntiad wyneb-yn-wyneb arnoch, dylai gynnig un i chi os yw’n gallu gwneud hynny. Os nad yw hynny'n bosibl, dylai roi gwybod i chi ble y gallwch gael gafael ar un (er enghraifft, meddyg neu gydymaith meddygol arall yn y feddygfa neu mewn meddygfa arall).
Pobl agored i niwed
Os bydd meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn amau eich bod yn agored i niwed, mae'n bwysig ei fod yn:
- ystyried eich anghenion a'ch lles
- gweithredu’n brydlon os oes ganddo bryderon y gallech chi, neu rywun agos atoch, fod mewn perygl o gael eich cam-drin neu eich esgeuluso, neu eich bod yn cael eich cam-drin neu eich esgeuluso. Er enghraifft, efallai y bydd angen iddo gysylltu ag arweinwyr diogelu.
Gwneud cofnodion a rhannu gwybodaeth
Mae cofnodion meddygol sy’n glir, yn gywir ac wedi’u hysgrifennu ar adeg yr ymgynghoriad yn ategu eich gofal parhaus.
Efallai y bydd angen i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia rannu eich gwybodaeth bersonol â chydweithwyr neu ddarparwyr iechyd neu ofal cymdeithasol eraill. Felly, mae’n bwysig eu bod yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol – gan gynnwys unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau cymorth i gyfathrebu. Lle bo hynny’n ymarferol, bydd yn gwirio bod rhywun wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros eich gofal.
Gallwch ddisgwyl i’ch cofnodion gael eu cadw’n gyfrinachol. Dim ond i sicrhau eich bod yn cael y gofal sydd ei angen arnoch y byddant yn cael eu rhannu â chydweithwyr. Mewn meddygaeth deulu, er enghraifft, efallai y bydd staff y dderbynfa’n rheoli presgripsiynau rheolaidd ac yn gwneud tasgau eraill sy’n golygu bod angen iddynt weld eich cofnodion.
Os nad ydych chi eisiau i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia rannu rhywfaint o wybodaeth, dylech siarad â nhw. Gellir hepgor gwybodaeth os yw’n ddiogel gwneud hynny. Ond os ydynt yn meddwl bod angen iddynt rannu’r wybodaeth er mwyn i chi gael y gofal cywir, dylent esbonio hyn i chi.
A fydd fy meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn siarad â fy nheulu neu fy ffrindiau am fy nhriniaeth a’m gofal?
Mae gwybodaeth feddygol yn gyfrinachol, a gallwch ddisgwyl i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Fel arfer, byddant yn cael eich cydsyniad cyn siarad am eich gofal â phobl sy’n agos atoch chi. Mae hyn yn arbennig o bwysig os gallech fod mewn perygl o niwed pe bai’r rhai sy’n agos atoch yn cael gwybod am eich gofal.
Os nad ydych yn gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan eich hun, neu os ydych eisiau i'r rhai sy'n agos atoch eich helpu i wneud penderfyniadau, gall meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia siarad gyda nhw am eich gofal.