Beth yw’r safonau proffesiynol?

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn nodi’r gwerthoedd, yr wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad a ddisgwylir gan bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia sy’n gweithio yn y DU. Arfer meddygol da yw’r enw ar ein prif ganllawiau. Mae gennym hefyd ganllawiau manylach mewn meysydd fel cyfrinachedd a chydsyniad.

Ers 13 Rhagfyr 2024, rydym hefyd wedi dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn ogystal â rheoleiddio meddygon. 

Mae'r safonau proffesiynol yn berthnasol i bob meddyg, cydymaith meddygol, a chydymaith anesthesia.  Rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio eu barn broffesiynol i gymhwyso’r safonau i’w hamgylchiadau penodol nhw.

Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddilyn ein safonau drwy gydol eu gyrfaoedd. Dyna pam mae ein safonau wedi’u gwreiddio mewn addysg ac arfarniadau.