Amserlen ar gyfer diwygio rheoleiddio

Mae diwygio rheoleiddio yn ddarn cymhleth iawn o waith a fydd yn cymryd amser – ymgynghorodd llywodraeth y DU ar y gwaith hwn am y tro cyntaf yn 2017. 

Rhwng 24 Mawrth a 21 Gorffennaf 2026, ymgynghorodd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU ar ddrafft o ddeddfwriaeth i ddiwygio'r ffordd rydym yn rheoleiddio meddygon. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cwmpasu pob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys addysg a hyfforddiant, y gofrestr, cofrestru ac asesiadau cyfnodol, addasrwydd i ymarfer, ac adolygiadau ac apeliadau.

Byddant yn ystyried nawr ymatebion ymgynghori cyn cadarnhau'r camau nesaf ar gyfer y ddeddfwriaeth.

Unwaith y bydd y ddeddfwriaeth newydd wedi'i chyflwyno, byddwn yn cynnal ein hymgynghoriad(au) ein hunain, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn bwriadu gweithredu'r ddeddfwriaeth. Rydym ni’n bwriadu cyflwyno’r diwygiadau fesul cam. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno newid ar gyflymder y gallwn ni ei reoli, tarfu cyn lleied â phosibl, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ar draws y DU drwy gydol y cyfnod pontio hwn.  

Grynodeb o’r camau ar hyd y broses hon

2017

Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar reoleiddio proffesiynau cymdeithion yn y maes meddygol.

2019

Gorffennaf: Fe wnaeth Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth y llywodraethau datganoledig, gadarnhau mai ni fydd y rheoleiddiwr ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

2021

Mawrth: Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr holl reoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol. 

2023

Chwefror: Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar ddeddfwriaeth newydd i ganiatáu i ni reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. 

Rhagfyr: Gorchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024 deddfwriaeth yn cyflwyno’r gwaith o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn cael ei rhoi gerbron Seneddau’r DU a’r Alban.  

2024

Ionawr: Gorchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024 ei phasio gan Seneddau’r DU a’r Alban.  

Mawrth i Mai: Fe wnaethom ni ymgynghori ar y rheolau, y safonau a’r canllawiau manw sydd eu hangen i ddechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

Mehefin i Dachwedd: Fe wnaethom ni adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad a chreu fersiynau terfynol o’n rheolau, ein safonau, ein canllawiau a’n prosesau eraill.  

Rhagfyr: Fe wnaethom gyhoeddi canlyniad ein hymgynghoriad a dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

2025 

Mai: Fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau ei hymrwymiad i ddiwygio’r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer meddygon.

2026

Mawrth i Gorffennaf: Ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth ddrafft i gyflwyno diwygiadau i’r ffordd yr ydym yn rheoleiddio meddygon. 

Gorffennaf ymlaen: Bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn eu defnyddio i gwblhau'r ddeddfwriaeth newydd, o'r enw G Ngorchymyn y GMC.

2027 ymlaen

Os yw'n cael ei gymeradwyo, câi Gorchymyn y GMC ei basio trwy seneddau'r DU a'r Alban.

Byddwn wedyn yn ymgynghori ar y rheolau manwl sydd eu hangen i weithredu'r diwygiadau a nodir yng Ngorchymyn y GMC, cyn cyflwyno'r newidiadau i'n prosesau.