Effaith diwygio rheoleiddio

Bydd diwygio rheoleiddio yn darparu manteision allweddol, a fydd yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau statudol ar gyfer cleifion a’r rhai a reoleiddir gennym. 

Bydd diwygio yn caniatáu i ni fod:

  • yn fwy hyblyg a hygyrch
  • yn gyflymach a mwy effeithlon
  • yn llai gwrthwynebus
  • yn symlach 
  • yn fwy atebol.

Bydd diwygio hefyd yn rhoi cyfle i ni wella ein polisïau a’n prosesau a chyflawni’r nod o’n strategaeth ar gyfer 2026/30 o fod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol a thosturiol. 

Isod, rydym ni’n amlinellu sut rydym ni’n disgwyl i ddiwygio rheoleiddio effeithio ar feysydd allweddol o’n gwaith, yn dibynnu ar ganlyniad ymgynghoriad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y ddeddfwriaeth ddrafft. 

Addasrwydd i ymarfer

Bydd diwygio yn gwneud ein proses addasrwydd i ymarfer yn llai gwrthwynebus ac yn ein galluogi i ddatrys rhai achosion yn gynt.  

  • Am y tro cyntaf, bydd yn rhoi disgresiwn i ni benderfynu pa achosion y dylem ymchwilio iddynt. Bydd hyn yn ein galluogi i gau rhai achosion yn gynt pan fyddwn ni wedi cadarnhau nad oes risg gyfredol na pharhaus i gleifion. Mae hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ein sylw ar y meysydd lle mae’r angen mwyaf i weithredu.  
  • Bydd yn rhoi’r pŵer i ni gymryd camau cyflym i dynnu unigolion cofrestredig a gafwyd yn euog o’r euogfarnau troseddol mwyaf difrifol oddi ar y gofrestr, gan wella hyder y cyhoedd mewn rheoleiddio.  
  • Bydd gennym y pŵer i gynnig mesur i ddiogelu’r cyhoedd ar ddiwedd ymchwiliad. Os yw unigolyn cofrestredig yn derbyn hyn, a bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, gellir datrys y mater heb fod angen gwrandawiad. Mae hyn yn golygu bod modd dod i gasgliad cyflymach â llai o straen i gleifion a gweithwyr proffesiynol, gan barhau i ddiogelu’r cyhoedd ar yr un pryd.  
  • Bydd diwygio hefyd yn dileu’r rheol pum mlynedd, sydd ar hyn o bryd yn ein rhwystro rhag bwrw ymlaen â rhai achosion lle mae honiadau hŷn na hynny.

Cofrestru

Bydd diwygio yn ein galluogi i symleiddio ein prosesau cofrestru fel bod y broses o ymuno â’n cofrestr yn fwy cyson a syml i nifer ehangach o unigolion cofrestredig.

  • Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd fodloni’r un safonau a meini prawf ar gyfer cofrestru, gan wneud ein prosesau’n fwy cyson a chynnig cyfle cyfartal i bob gweithiwr proffesiynol, lle bynnag y byddant wedi cymhwyso.
  • Bydd y gofynion ar gyfer ymuno ac ailymuno â’n cofrestr wedi’u halinio’n well fel y bydd angen i ymgeiswyr sy’n gwneud cais i ailymuno â’r gofrestr ddangos eu bod yn bodloni’r un safonau a gofynion gwybodaeth â’r rhai sy’n gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf. 
  • Bydd proses symlach ar gyfer tynnu cofnod yn wirfoddol yn ei gwneud yn haws i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia adael y gofrestr, ond dim ond pan na fydd unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer wedi cael eu nodi.  

Addysg a hyfforddiant

Bydd diwygio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni o ran sut rydym ni’n rheoleiddio addysg a hyfforddiant i bob unigolyn cofrestredig.

Byddwn ni’n gallu parhau i gymeradwyo, sicrhau ansawdd a hyrwyddo safonau uchel yn y llwybrau presennol ochr yn ochr â ffyrdd mwy newydd o ddysgu. A bydd myfyrwyr meddygol, myfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia a meddygon dan hyfforddiant yn cael mwy o sicrwydd oherwydd: 

  • byddwn ni’n cymeradwyo a sicrhau ansawdd pob cwrs unigol, yn hytrach na sefydliadau cyfan
  • pan na fydd ein safonau’n cael eu bodloni, bydd unrhyw fesurau angenrheidiol yn digwydd mewn ffordd amserol, wedi’i thargedu a byddan nhw’n sbarduno gwelliannau yn ansawdd yr addysg a'r hyfforddiant.  

Llywodraethu

Mae diwygio’n cydbwyso mwy o hyblygrwydd â mwy o atebolrwydd. Bydd gennym ni ofyniad mwy penodol i fod yn dryloyw â’r cyhoedd a’n hunigolion cofrestredig o ran sut rydym ni’n gweithio, gyda dyletswyddau newydd i ymgynghori ar newidiadau sylweddol i’n rheolau, ymgysylltu â’r cyhoedd yn ein gwaith a sicrhau arferion da o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hefyd yn ofynnol i ni adrodd yn flynyddol i bob un o’r cyrff deddfwriaethol ym mhedair gwlad y DU. 

Mewn gwirionedd, mae’r rhain i gyd yn bethau rydym ni eisoes yn eu gwneud ond byddai Gorchymyn y GMC yn ffurfioli’r rhain fel gofynion cyfreithiol ac yn tynnu sylw at eu pwysigrwydd.

Yn lle ein Cyngor llywodraethu bydd bwrdd unedol yn cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol, a fydd yn cael eu penodi ar sail eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u harbenigedd, i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein swyddogaethau statudol yn effeithiol.