Beth yw diwygio rheoleiddiol?
- Summary
- Ein rôl fel rheoleiddiwr
- Beth yw diwygio rheoleiddiol?
Cafodd y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r ffordd yr ydym yn gweithio fel rheoleiddiwr ei chyflwyno dros 40 mlynedd yn ôl ac mae’n gymhleth, yn rhy ragnodol ac yn araf i addasu i newid. Mae wedi ein rhwystro ni a rheoleiddwyr eraill yn ein hymdrechion i ddiogelu’r cyhoedd a chefnogi’r rhai yr ydym yn eu rheoleiddio i ddarparu gofal da a diogel i gleifion.
Bydd diwygio’n rhoi fframwaith deddfwriaethol mwy modern ac ymatebol inni. Bydd yn ein galluogi i ymateb yn gyflymach ac yn fwy hyblyg pan fydd risg i ddiogelwch cleifion, a bydd yn golygu ein bod yn gallu bod yn well am gefnogi arferion da.
Rhwng 24 Mawrth 2026 a 21 Gorffennaf 2026, ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar ddrafft o ddeddfwriaeth newydd a fydd yn diwygio'r ffordd rydym yn rheoleiddio meddygon. Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad, gan nodi'r cynigion rydym yn eu cefnogi ynghyd â'r meysydd lle hoffem weld newidiadau.
Bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn awr yn ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad cyn nodi'r camau nesaf ar gyfer y ddeddfwriaeth.