Ein rôl fel rheoleiddiwr

Ni sy’n rheoleiddiwr annibynnol ar feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y DU. Rydym yn gweithio gyda’n hunigolion cofrestredig, eu haddysgwyr ac eraill i wneud y canlynol:

  • gosod y safonau gofal cleifion ac ymddygiad proffesiynol y mae’n rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eu bodloni
  • sicrhau bod ein holl unigolion cofrestredig yn cael yr addysg a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal da a diogel i gleifion
  • gwirio pwy sy'n gymwys i weithio fel meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn y DU, a gwirio eu bod yn parhau i fodloni'r safonau proffesiynol a osodwyd gennym
  • rhoi arweiniad a chyngor i helpu ein hunigolion cofrestredig i ddeall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt
  • ymchwilio pan fo pryderon fod risg i ddiogelwch cleifion mewn perygl, neu os oes risg i hyder y cyhoedd mewn meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia, a chymryd camau os oes angen

Ein rôl, mandad a phwrpas statudol