Canllaw ar ddiwygio rheoleiddio

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â’n rôl fel rheoleiddiwr gofal iechyd proffesiynol – a sut bydd yn newid yn y dyfodol.

Mae rheoleiddio yn cefnogi gofal da, diogel i gleifion. Bydd diwygio’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu sut rydym yn gweithio yn rhoi fframwaith modern ac ymatebol i ni sy’n hyrwyddo hyder y cyhoedd, yn cefnogi ein hunigolion cofrestredig yn well, ac yn ein helpu i ymateb yn gyflymach ac yn fwy hyblyg i newidiadau yn yr amgylchedd gofal iechyd ehangach.

Y ddeddfwriaeth a oedd yn cyflwyno’r drefn o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia oedd y cam cyntaf tuag at ddiwygiadau ar gyfer meddygon yn y dyfodol ac at ein nod o fod yn rheoleiddiwr mwy perthnasol, effeithiol a thosturiol.