Beth yw ailddilysu?
Rhaid i feddygon ddangos yn rheolaidd eu bod yn diweddaru eu sgiliau a’u gwybodaeth. Ailddilysu yw’r enw ar y broses hon. Rhaid i bob meddyg trwyddedig ailddilysu i ddangos ei fod yn addas i ymarfer a chynnal ei drwydded i weithio yn y DU.
Mae ailddilysu:
- yn cefnogi meddygon i fyfyrio’n rheolaidd ar eu hymarfer
- yn helpu meddygon i wella’r gofal y maent yn ei roi, ac i ganfod meysydd i’w datblygu
- yn rhoi hyder i gleifion bod meddygon yn gyfredol
- yn rhoi sicrwydd bod meddygon yn cael eu harchwilio’n rheolaidd gan uwch feddyg
- yn helpu i nodi gwelliannau mewn sefydliadau lle mae meddygon yn gweithio, gan hyrwyddo safon gyffredinol gofal iechyd.
Mae ein geirfa yn egluro’r termau a ddefnyddir wrth ailddilysu.
Mae ein tudalen rolau a chyfrifoldebau (Saesneg yn unig) yn rhoi trosolwg o’r rolau allweddol yn y broses ailddilysu.
Sut mae’n gweithio
Mae meddygon yn casglu enghreifftiau o’u gwaith i ddeall beth maen nhw’n ei wneud yn dda a sut gallan nhw wella. Mae hyn yn cynnwys adborth gan gleifion a chydweithwyr, dysgu o hyfforddiant ac unrhyw ganmoliaeth neu gwynion y gallent fod wedi’u derbyn.
Bob blwyddyn, mae meddygon yn adolygu ac yn trafod eu gwaith gydag unigolyn sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig (a elwir yn arfarnwr). Maent yn cytuno ar gynllun ar gyfer sut y gall y meddyg wella ac adeiladu ar yr hyn y mae’n ei wneud yn dda yn ystod y flwyddyn nesaf.
Sut mae hyn yn cael ei wirio?
Mae uwch feddygon profiadol (a elwir yn swyddogion cyfrifol / personau addas) yn gweithio gyda ni i wneud yn siŵr bod meddygon yn adolygu eu gwaith. Maent hefyd yn derbyn gwybodaeth arall am waith y meddyg gan eu cyflogwr.
Os oes angen cymorth ychwanegol ar y meddyg, neu os oes unrhyw broblemau difrifol, maent yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn ar unwaith. Bob pum mlynedd, mae’r swyddog cyfrifol yn dweud wrthym a yw’r meddyg yn cadw’n gyfredol ac yn parhau’n addas i ymarfer. Ar sail hyn, rydym yn penderfynu a all y meddyg gadw ei drwydded.
Mae meddygon sydd heb gysylltiad â swyddog cyfrifol / person addas yn dilyn proses debyg gydag arfarniadau blynyddol, ond rhaid iddynt hefyd ddarparu gwybodaeth yn uniongyrchol i’r GMC, ac maent fel arfer yn sefyll asesiad bob pum mlynedd.
Sut gall cleifion gymryd rhan?
Mae cleifion yn chwarae rhan bwysig yn y broses ailddilysu drwy roi adborth ar ofal eu meddyg.
Mae ein canllaw ‘Sut gall cleifion gymryd rhan’ yn ymdrin â’r hyn y gall cleifion ei wneud, ac mae’n darparu taflenni a Chwestiynau Cyffredin ar roi adborth i feddygon.
Rydym yn argymell bod cleifion yn cael copi o’r daflen pan ofynnir iddynt roi adborth am eu meddyg.
Pryderon am feddyg
Nid ffordd o fynegi neu fynd i’r afael â phryderon am ymarfer meddyg yw ailddilysu. Dylid mynd i’r afael â’r rheini cyn gynted ag y byddant yn codi. Mae dyletswydd ar bob meddyg i roi gwybod am bryderon difrifol am gydweithwyr yn unol â’n canllawiau.
Beth fydd yn digwydd os nad yw meddyg yn cymryd rhan mewn proses ailddilysu?
Rhaid i feddygon ymgysylltu â’r prosesau sy’n cefnogi ailddilysu a bodloni’r gofynion ailddilysu sydd wedi’u nodi yn ein canllawiau (Saesneg yn unig) i gynnal eu trwydded i ymarfer.Os na fyddant yn gwneud hyn, efallai y byddwn yn cymryd camau i dynnu eu trwydded yn ôl. Darllenwch am y rhesymau pam y gallem dynnu trwydded yn ôl, a'r camau y gall meddygon eu cymryd i osgoi hyn.