Geirfa – Ailddilysu

Term Diffiniad
Ailddilysu

Mae ailddilysu yn broses sy’n sicrhau bod meddygon trwyddedig yn:

  • addas i ymarfer
  • sicrhau bod eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol.

Rhaid i feddygon ailddilysu i gadw eu trwydded i ymarfer yn y DU.

Arfarniad Cyfarfod blynyddol rhwng meddyg ac unigolyn sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig (o'r enw 'arfarnwr’).  Mae meddygon yn casglu gwybodaeth o’u holl gwmpas ymarfer y maent yn ei drafod ac yn myfyrio arni yn eu harfarniad i ddangos eu bod yn parhau i fodloni safonau Ymarfer meddygol da.
Arfarnwr

Unigolion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n adolygu’r wybodaeth ategol a gasglwyd ar gyfer ailddilysu, gan hwyluso trafodaeth a sbarduno myfyrio ar draws holl gwmpas ymarfer y sawl sy’n cael ei arfarnu. 

Asesiad ailddilysu

Prawf gwybodaeth i alluogi meddygon sydd heb gysylltiad i ddangos eu bod yn bodloni’r safon ofynnol ar gyfer ailddilysu.

Byrddau

Grŵp o unigolion (gan gynnwys cyfarwyddwyr anweithredol) sy’n gyfrifol am arwain sefydliad a sicrhau bod prosesau llywodraethu clinigol yn cael eu darparu a’u sicrhau. 

Corff dynodedig

Sefydliad y mae’n ofynnol iddo benodi a chael gafael ar swyddog cyfrifol ar gyfer ailddilysu. Mae cyrff dynodedig yn cefnogi ac yn hwyluso’r broses ailddilysu ar gyfer meddygon.  Maent yn cynnwys:

  • Ymddiriedolaethau’r GIG ac Ymddiriedolaethau Sefydledig
  • NHS England
  • Byrddau Iechyd yng Nghymru a’r Alban
  • Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
  • Darparwyr gofal iechyd annibynnol ac asiantaethau locwm.

Gall ein Teclyn Cysylltu a rhestr o sefydliadau eich helpu i ddod o hyd i’ch corff dynodedig.

Cwmpas eich ymarfer

Yr holl leoedd y mae meddyg wedi gweithio, a’r rolau y mae wedi’u cyflawni sy’n gofyn am drwydded i ymarfer, yn y DU ers ei arfarniad diwethaf.  Mae hyn yn cynnwys:

  • rolau clinigol
  • rolau anghlinigol fel rolau addysgol, ymchwil, academaidd, rheoli neu arwain
  • y GIG, y sector annibynnol, gwaith gwirfoddol a phreifat.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)

Rydym yn gweithio gyda meddygon, cleifion a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon a’r rhai sy’n eu hyfforddi eu bodloni, ac yn eu helpu i’w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.

Cysylltiad

Cysylltiad a sefydlir yn y rheoliadau perthnasol rhwng meddyg a chorff dynodedig neu berson addas.

Datganiad blynyddol

Mae meddygon sydd heb gysylltiad yn cyflwyno tystiolaeth i’r GMC bob blwyddyn.  Mae hyn yn dangos eu hymgysylltiad â'r broses ailddilysu.

Llywodraethu clinigol

Term cyffredinol am y trefniadau lle mae sefydliadau’n atebol am fonitro a gwella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau clinigol yn barhaus. Mae llawer o brosesau a gweithgareddau sy'n cefnogi llywodraethu clinigol ar gyfer meddygon, er enghraifft:

  • arfarnu a datblygiad proffesiynol
  • nodi, ymateb a rhannu pryderon
  • rheoli cwynion a digwyddiadau
  • monitro perfformiad ac addasrwydd i ymarfer
  • gwiriadau cyn cyflogi
  • sicrhau ansawdd a gwella prosesau llywodraethu lleol
  • llywodraethu gwybodaeth
  • archwilio clinigol
  • rheoli risg.
Person addas

Meddyg trwyddedig a gymeradwywyd gan y GMC i wneud argymhellion ailddilysu am feddyg sydd heb swyddog cyfrifol. Gweler ein rhestr o bobl addas a gymeradwywyd.

Swyddog cyfrifol

Uwch feddygon profiadol sy’n gyfrifol am sicrhau bod meddygon sydd â chysylltiad â’u corff dynodedig yn gymwys o ran yr hyn y maent yn ei wneud ac yn gwbl gyfredol. Maent yn gwneud argymhellion i’r GMC ynglŷn ag ailddilysu pob un o’u meddygon.  Mae swyddogion cyfrifol yn gweithio gyda ni i sicrhau:

  • bod systemau ar waith i arfarnu ymarfer meddygon
  • bod meddygon yn cael arfarniadau rheolaidd
  • bod prosesau ar gael i ymchwilio i unrhyw bryderon addasrwydd i ymarfer a’u cyfeirio at y GMC.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a yw meddygon yn parhau i fodloni’r safonau a osodwyd gennym ai peidio. 
Y sawl sy’n cael ei arfarnu

Meddyg sy’n cael arfarniad.