Sut gall cleifion gymryd rhan mewn proses ailddilysu?
Mae gan gleifion rôl bwysig o ran ailddilysu. Mae ein canllaw ‘Beth yw ailddilysu’ yn egluro mwy am ailddilysu a sut mae hyn yn gweithio.
Mae eich meddyg eisiau i chi rannu eich profiadau o gael gofal, er mwyn iddyn nhw wybod sut maen nhw’n gwneud. Efallai na fyddwch yn gallu asesu sgiliau meddygol y meddyg, ond gallwch ddweud, er enghraifft, pa mor dda yr oedd yn gwrando arnoch neu’n esbonio beth yr oedd yn ei wneud.
Gallwch chi wneud y canlynol:
- Cymryd rhan os gofynnir i chi roi adborth am feddyg. Does dim rhaid i chi ddweud pwy ydych chi ac ni fydd eich meddyg yn gweld eich ymateb unigol.
- Rhoi gwybod i feddygon sut maen nhw’n gwneud unrhyw bryd. Er enghraifft, gallech anfon cerdyn neu lythyr i ‘ddiolch’.
- Mynegi pryder os nad ydych wedi cael gofal da. Yn aml, y ffordd orau o gael penderfyniad yw mynegi hyn yn uniongyrchol gyda’r man lle cawsoch chi eich trin. Gall ein tudalennau cymorth eich helpu i fynegi pryder.
- Ymuno â’ch grŵp cleifion lleol, os hoffech chi gymryd mwy o ran. Cysylltu â'ch sefydliad gofal iechyd lleol (fel eich meddygfa neu ysbyty lleol) i gael gwybod mwy.