Rwy’n barod i wneud cais
Barod i ddechrau eich cais?
I ddechrau, mewngofnodwch i GMC Ar-lein a dewis My registration, yna My applications.
Bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch cyfeirnod a’ch cyfrinair ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol fel defnyddiwr presennol.
Cyflwyno eich cais
Ar ôl i chi ddechrau eich cais, gallwch ei gadw a dod yn ôl ato yn nes ymlaen os bydd angen. Mae gennych dri mis i gwblhau eich cais. Os na fyddwch yn ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi ddechrau un newydd.
Does gen i ddim cyfrif ar gyfer GMC Ar-lein eto
Os nad oes gennych gyfeirnod ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac nid ydych erioed wedi mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein neu nad oes gennych chi fanylion mewngofnodi, rydych chi’n gallu.
Mewngofnodi i’ch cyfrif GMC Ar-lein
Os ydych chi eisoes wedi ysgogi eich cyfrif GMC Ar-lein ac mae angen i chi gwblhau eich cais, mewngofnodwch yn GMC Ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau uchod.
I gael rhagor o gyngor ar greu cyfrif, cysylltwch â ni.
Ffurflen Gais Gymraeg
I wneud cais yn Gymraeg, defnyddiwch ein ffurflen gais Gymraeg.
Os ydych chi eisiau cymorth, cysylltwch â ni.