Cyfrinachedd: pa mor addas yw cleifion i yrru, a rhoi gwybod am bryderon i’r DVLA neu’r DVA

Cyfrinachedd: pa mor addas yw cleifon i yrru, a rhoi gwybod am bryderon i’r DVLA neu’r DVA

1

Yn ein canllawiau Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion, rydym yn dweud: 

1. Mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng meddyg a chlaf ac mae cyfrinachedd yn ganolog i hyn. Efallai y bydd cleifion yn osgoi ceisio help meddygol, neu efallai na fyddant yn rhoi disgrifiad llawn o’u symptomau, os byddant yn credu y bydd meddygon yn datgelu eu gwybodaeth bersonol heb eu caniatâd, neu os na fyddant yn cael y cyfle i gael rhywfaint o reolaeth dros yr amseru neu swm y wybodaeth a rennir.

60. Mae gan feddygon ddyletswydd cyfrinachedd tuag at eu cleifion, ond hefyd, mae ganddynt ddyletswydd ehangach i ddiogelu ac i hyrwyddo iechyd cleifion a’r cyhoedd.

62.Dylech ofyn am ganiatâd claf i ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu eraill oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i chi wneud hynny,1 neu os yw’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Dylech ystyried unrhyw resymau a roddir dros wrthod rhoi caniatâd.

64. Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

67. Cyn penderfynu a ellid cyfiawnhau datgelu er budd y cyhoedd, dylech ystyried a yw’n ymarferol neu’n briodol i geisio caniatâd (gweler paragraff 14). Ni ddylech ofyn am ganiatâd os ydych eisoes wedi penderfynu datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd ond dylech ddweud wrth y claf eich bod yn bwriadu datgelu’r wybodaeth, oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i wneud hynny. Os yw’r claf yn gwrthwynebu’r datgeliad, dylech ystyried unrhyw resymau y maent yn eu rhoi dros wrthwynebu.

68. Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf a’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried y canlynol:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf sy’n deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu hymgysylltiad yn y dyfodol â thriniaeth a’u hiechyd yn gyffredinol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn meddygon yn gyffredinol – er enghraifft, os oes canfyddiad cyffredinol y bydd meddygon yn datgelu gwybodaeth am gleifion yn rhwydd heb ganiatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny i berson neu bobl benodol, neu i’r cyhoedd yn fwy cyffredinol) os na chaiff y wybodaeth ei datgelu
  4. y manteision posibl i unigolyn neu gymdeithas sy'n deillio o ryddhau'r wybodaeth
  5. natur yr wybodaeth sydd i'w datgelu, ac unrhyw farn a fynegir gan y claf
  6. a ellir osgoi’r niwed neu’r manteision a geir heb dorri ar breifatrwydd y claf neu, os na ellir gwneud hynny, beth yw’r ymyrraeth leiaf

Os ydych o’r farn y byddai peidio â datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas yn agored i risg mor ddifrifol fel ei bod yn drech na’r budd i’r claf a’r cyhoedd o gadw cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn brydlon i berson neu awdurdod priodol.

1

Rydym yn rhoi enghreifftiau o adegau pan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd efallai ym mharagraff 14 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion. Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance.

Am yr arweiniad hwn

2

Mae gan weithwyr meddygol proffesiynol ddyletswydd cyfrinachedd tuag at eu cleifion, ond hefyd, mae ganddynt ddyletswydd ehangach i ddiogelu ac i hyrwyddo iechyd cleifion a’r cyhoedd2  Mae’r canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn nodi’r camau y dylai gweithwyr meddygol proffesiynol eu cymryd os bydd y ffaith bod claf yn methu neu’n gwrthod rhoi’r gorau i yrru yn rhoi eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth.3

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arferion da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn achos difrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i weithredu’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn sôn mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn berthnasol i’n prosesau addasrwydd i ymarfer, arfarnu ac ailddilysu ar ddechrau Arfer meddygol da.

2

Gweler ‘Dyletswyddau meddyg sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol’ yn Arfer meddygol da, y mae modd i chi ei weld trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance.

3

Mae’r egwyddorion yn y canllawiau hyn yn berthnasol i yrwyr a pheilotiaid mathau eraill o drafnidiaeth rheoledig arall, gan gynnwys ar reilffyrdd, ar ddŵr ac yn yr awyr, er bod unigolion o’r fath yn debygol o fod yn destun asesiad meddygol fel rhan o’r broses drwyddedu neu ardystio berthnasol.

Os ydych chi’n pryderu y gallai claf sy’n dal trwydded beilot breifat neu fasnachol fod yn anaddas yn feddygol i hedfan awyren, gallwch gysylltu ag adran feddygol Awdurdod Hedfan Sifil y DU ar 0330 022 1972 i gael cyngor cyfrinachol neu, y tu allan i oriau swyddfa, naill ai cysylltwch â phrif dderbynfa’r CAA ar 0330 022 1500 neu anfonwch e-bost at medicalweb@ca.co.uk

I gael cyngor am forwyr, mae modd i chi gysylltu â changen iechyd a diogelwch yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau am gyngor trwy anfon e-bost at infoline@mcga.gov.uk. Os ydych yn pryderu y gallai cyflwr meddygol neu driniaeth gyrrwr trên olygu nad ydynt yn addas i yrru trên, y cyngor a roddir gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd (ORR) yw y dylid cysylltu ag adran AD eu cyflogwr yn y lle cyntaf. Gall Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd ddarparu manylion cyswllt gweithredwyr trenau ym Mhrydain Fawr os ydych chi'n gwybod enw'r cyflogwr. Mae modd i chi gysylltu â'r ORR ar eu gwefan.

Addasrwydd i yrru: cyfrifoldebau meddygon a chleifion

3

Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a'r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) yng Ngogledd Iwerddon sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am benderfynu a yw person yn anaddas yn feddygol i yrru. Mae hyn yn golygu bod angen iddo wybod a oes gan berson sydd â thrwydded yrru gyflwr neu a yw’n cael triniaeth a allai, yn awr, neu yn y dyfodol, effeithio ar ba mor ddiogel ydyw fel gyrrwr. 

4

Y gyrrwr sy’n gyfrifol yn ôl y gyfraith am ddweud wrth y DVLA neu’r DVA am unrhyw gyflwr neu driniaeth o’r fath. Felly, dylai gweithwyr meddygol proffesiynol dynnu sylw cleifion at gyflyrau a thriniaethau a allai effeithio ar eu gallu i yrru a'u hatgoffa o'u dyletswydd i ddweud wrth yr asiantaeth briodol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i weithwyr meddygol proffesiynol benderfynu a ddylid datgelu gwybodaeth berthnasol heb ganiatâd i'r DVLA neu’r DVA er budd y cyhoedd os yw claf yn anaddas i yrru ond yn parhau i wneud hynny. 

Asesu addasrwydd claf i yrru

5

Wrth wneud diagnosis o gyflwr claf, neu ddarparu neu drefnu triniaeth, dylech ystyried a allai’r cyflwr neu’r driniaeth effeithio ar ei allu i yrru’n ddiogel. Dylech chi wneud y canlynol:

  • cyfeirio at ganllawiau'r DVLA Assessing fitness to drive –  a guide for medical professionals,4 sy'n cynnwys gwybodaeth am anhwylderau a chyflyrau sy'n gallu amharu ar addasrwydd claf i yrru 
  • gofyn am gyngor gan gydweithiwr profiadol neu ymgynghorydd meddygol DVLA neu DVA os nad ydych yn siŵr a allai cyflwr neu driniaeth effeithio ar addasrwydd claf i yrru.5  
5

Gallwch gysylltu â chynghorwyr meddygol y DVLA yn  medadviser@dvla.gov.uk, a'r DVA ar 0800 200 7861.

Adrodd pryderon i DVLA neu DVA

6

Os oes gan glaf gyflwr neu os yw’n cael triniaeth a allai amharu ar ei addasrwydd i yrru, dylech:

  1. esbonio hyn wrth y claf a dweud wrtho fod dyletswydd gyfreithiol arno i roi gwybod i’r DVLA neu’r DVA 
  2. dweud wrth y claf y gallai fod yn rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth feddygol berthnasol amdano, yn gyfrinachol, i’r DVLA neu’r DVA os bydd yn parhau i yrru pan nad yw'n ffit i wneud hynny 
  3. gwneud nodyn o unrhyw gyngor rydych wedi'i roi i glaf am ei addasrwydd i yrru yn ei gofnod meddygol. 
7

Os nad yw claf yn gallu deall y cyngor hwn - er enghraifft, oherwydd dementia - dylech roi gwybod i'r DVLA neu'r DVA cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

8

Os bydd claf yn gwrthod derbyn y diagnosis, neu effaith y cyflwr neu’r driniaeth ar ei allu i yrru, gallwch awgrymu ei fod yn gofyn am ail farn, a helpu i drefnu iddo wneud hynny. Dylech chi gynghori’r claf i beidio â gyrru yn y cyfamser. Cyn belled â bod y claf yn cytuno, gallwch drafod eich pryderon gyda’i berthnasau, ei ffrindiau neu ei ofalwyr.

9

Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod claf yn parhau i yrru pan nad yw’n ffit i wneud hynny, dylech wneud pob ymdrech resymol i’w berswadio i roi’r gorau iddi. Os nad ydych chi’n llwyddo i berswadio’r claf i roi’r gorau i yrru, neu os ydych chi’n darganfod ei fod yn parhau i yrru yn groes i’ch cyngor, dylech ystyried a yw’r ffaith bod y claf yn gwrthod rhoi’r gorau i yrru yn rhoi eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Os ydych chi'n credu ei fod, dylech gysylltu â'r DVLA neu'r DVA yn ddi-oed a datgelu unrhyw wybodaeth feddygol berthnasol, yn gyfrinachol, i'r ymgynghorydd meddygol.

10

Cyn cysylltu â'r DVLA neu'r DVA, dylech geisio hysbysu'r claf o'ch bwriad i ddatgelu gwybodaeth bersonol. Os yw’r claf yn gwrthwynebu’r datgeliad, dylech ystyried unrhyw resymau y mae'n eu rhoi dros wrthwynebu. Os byddwch yn penderfynu cysylltu â'r DVLA neu'r DVA, dylech roi gwybod i'ch claf yn ysgrifenedig ar ôl i chi wneud hynny, a gwneud nodyn ar gofnod y claf.

Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan DVLA neu DVA

11

Os byddwch yn cytuno i baratoi adroddiad neu’n llenwi neu’n llofnodi dogfen i gynorthwyo asesiad y DVLA neu’r DVA o addasrwydd claf i yrru, dylech wneud hynny heb oedi afresymol.