Ôl-nodion
Rydym yn rhoi enghreifftiau o adegau pan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd efallai ym mharagraff 14 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion. Mae modd i chi weld ein holl arweiniad ar-lein trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance.
Gweler ‘Dyletswyddau meddyg sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol’ yn Arfer meddygol da, y mae modd i chi ei weld trwy droi at www.gmc-uk.org/guidance.
Mae’r egwyddorion yn y canllawiau hyn yn berthnasol i yrwyr a pheilotiaid mathau eraill o drafnidiaeth rheoledig arall, gan gynnwys ar reilffyrdd, ar ddŵr ac yn yr awyr, er bod unigolion o’r fath yn debygol o fod yn destun asesiad meddygol fel rhan o’r broses drwyddedu neu ardystio berthnasol.
Os ydych chi’n pryderu y gallai claf sy’n dal trwydded beilot breifat neu fasnachol fod yn anaddas yn feddygol i hedfan awyren, gallwch gysylltu ag adran feddygol Awdurdod Hedfan Sifil y DU ar 0330 022 1972 i gael cyngor cyfrinachol neu, y tu allan i oriau swyddfa, naill ai cysylltwch â phrif dderbynfa’r CAA ar 0330 022 1500 neu anfonwch e-bost at medicalweb@ca.co.uk.
I gael cyngor am forwyr, mae modd i chi gysylltu â changen iechyd a diogelwch yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau am gyngor trwy anfon e-bost at infoline@mcga.gov.uk. Os ydych yn pryderu y gallai cyflwr meddygol neu driniaeth gyrrwr trên olygu nad ydynt yn addas i yrru trên, y cyngor a roddir gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd (ORR) yw y dylid cysylltu ag adran AD eu cyflogwr yn y lle cyntaf. Gall Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd ddarparu manylion cyswllt gweithredwyr trenau ym Mhrydain Fawr os ydych chi'n gwybod enw'r cyflogwr. Mae modd i chi gysylltu â'r ORR ar eu gwefan.
Canllawiau'r DVLA, Assessing fitness to drive - a guide for medical professionals.
Gallwch gysylltu â chynghorwyr meddygol y DVLA yn medadviser@dvla.gov.uk, a'r DVA ar 0800 200 7861.