Ein tîm yng Nghymru
Mae gweithio’n agos gyda’n partneriaid sy’n benodol i’r gwledydd yn ein helpu i wneud yn siŵr bod ein dull rheoleiddio yn seiliedig ar y gwasanaethau a’r polisïau iechyd yng Nghymru.
Ym mhopeth a wnawn, rydym yn gofyn am farn amrywiaeth eang o sefydliadau a phobl sydd â diddordeb mewn gofal iechyd. Gyda'n gilydd rydym yn sicrhau bod rheoleiddio meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA) yn gweithio i Gymru. Mae hyn yn hanfodol gan fod gwasanaethau a pholisïau iechyd yn amrywio ar draws pedair gwlad y DU.
Ymhlith eraill, rydym yn ymgysylltu ac yn gweithio mewn partneriaeth â:
- Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
- ysgolion meddygol a darparwyr cyrsiau PA ac AA
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
- Cymdeithas Feddygol Prydain – Cymru
- colegau brenhinol meddygol
- Cyflogwyr y GIG
- cynrychiolwyr cleifion
- rheoleiddwyr iechyd eraill
- Aelodau o’r Senedd.
Darllenwch adroddiad GMC 2024 Cymru i gael rhagor o wybodaeth am waith diweddaraf y tîm.
Dysgwch fwy am ein cynghorwyr Allgymorth yng Nghymru.
Fforwm Cynghori’r DU
Un o’n ffyrdd o gyfarfod ac ymgynghori’n ffurfiol â’n partneriaid yw drwy Fforwm Cynghori’r DU. Mae’r Fforwm yn ein galluogi i ganolbwyntio ar flaenoriaethau tymor hir a thrafod safbwyntiau cam cynnar ar ddatblygu polisi.
Gwybodaeth am yr hyn y mae’r Fforwm wedi bod yn ei drafod yng Nghymru yn ddiweddar.
Sut mae gofal iechyd yn gweithio yng Nghymru?
Llywodraeth Cymru sy’n pennu polisi, cyllid ac amcanion gofal iechyd Cymru.
Mae saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, sy’n darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol ac arbenigol.
Mae gan dair ymddiriedolaeth GIG gylch gwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau penodol; er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnig gwasanaethau arbenigol ym maes gofal canser.
Mae 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ofal cymdeithasol, gan weithio’n agos gyda gwasanaethau iechyd.
Mae gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ofyniad statudol i ymrwymo i drefniadau partneriaeth ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys cyllidebau cyfun i wella iechyd a gofal cymdeithasol cleifion. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn creu cynlluniau integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob ardal awdurdod lleol.
Cysylltu â ni
I gysylltu â’n tîm yng Nghymru, anfonwch e-bost i gmcwales@gmc-uk.org.