Rwy’n barod i wneud cais
Barod i ddechrau eich cais?
Ar ôl i chi ddarllen y canllawiau hyn a deall y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais, rydych chi’n barod i wneud cais.
Ewch i’n adnodd gwirio cymhwysedd (Saesneg yn unig) ac ateb ychydig o gwestiynau er mwyn i ni allu eich cyfeirio at GMC Ar-lein i ddechrau creu eich cyfrif a gwneud cais i gofrestru.
I wneud cais yn Gymraeg, defnyddiwch ein ffurflen gais.
Cyflwyno eich cais
Ar ôl i chi ddechrau eich cais yn GMC Ar-lein, gallwch ei gadw a dod yn ôl ato yn nes ymlaen os bydd angen. Mae gennych dri mis i gwblhau eich cais. Os na fyddwch yn ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi ddechrau un newydd.