Rwy’n barod i wneud cais

Barod i ddechrau eich cais?

Ar ôl i chi ddarllen y canllawiau hyn a deall y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais, rydych chi’n barod i wneud cais ar ôl i chi gael gwahoddiad gennym drwy e-bost. Arhoswch i gael hwn cyn dechrau eich cais. 

Cyflwyno eich cais

Ar ôl i chi ddechrau eich cais yn GMC Ar-lein, gallwch ei gadw a dod yn ôl ato yn nes ymlaen os bydd angen. Mae gennych dri mis i gwblhau eich cais. Os na fyddwch yn ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi ddechrau un newydd.