Cleifon sy’n ceisio cyngor neu wybodaeth ynghylch cael cymorth i farw

Ôl-nodion

1

Yn y ddogfen hon, rydym yn defnyddio’r derminoleg ‘diweddu eu bywyd eu hunain’ yn lle hunanladdiad ac eithrio wrth gyfeirio’n uniongyrchol at droseddau.

2

Ni fydd claf y byddant yn marw o ganlyniad i ddilyniant naturiol eu clefyd ar ôl gwrthod triniaeth i ymestyn eu bywyd, yn cyfawni hunanladdiad. Ymddiriedolaeth GIG Airedale NHS v Bland [1993] 1 All ER 821, Re JT (Oedolyn: Gwrthod triniaeth feddygol) [1998] 1 FLR 48 ac Re AK (Triniaeth feddygol: Caniatâd) [2001] 1 FLR 129.

3

Mae’n rhaid i feddygon sy’n ansicr ynghylch sut y gellir gweld gweithred benodol yn y gyfraith geisio cyngor cyfreithiol cyfredol. Gellir cael hwn gan sefydliad amddiffyn, cymdeithas broffesiynol neu adran gyfreithiol cyfogwr.