Cleifon sy’n ceisio cyngor neu wybodaeth ynghylch cael cymorth i farw
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i benderfynu pa wybodaeth y gallwch ei rhoi i’ch claf am gymorth i farw gan weithredu o fewn y gyfraith. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i benderfynu pa wybodaeth y gallwch ei rhoi i’ch claf am gymorth i farw tra’n gweithredu o fewn y gyfraith. Mae'n bwysig nodi nad yw'r canllawiau'n atal gweithwyr meddygol proffesiynol rhag cynnig, darparu na phresgripsiynu meddyginiaethau i leddfu poen neu symptomau gofidus eraill, na rhag addo gwneud hynny.
Dylech chi hefyd ddarllen y canllawiau eraill, Canllawiau ar gyfer y Pwyllgor Ymchwilio a’r archwilydd achos wrth ystyried honiadau fod meddyg yn gysylltiedig ag annog neu gynorthwyo hunanladdiad. Maent yn ymdrin â materion fel ceisiadau am fynediad at ddata o dan y gyfraith diogelu data, ysgrifennu adroddiadau, a gweithredoedd tosturiol gan feddygon sy’n aelodau o deulu cleifion.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 31 Ionawr 2013. Cawsant eu diweddaru ar 15 Hydref 2014 a 18 Mehefin 2015 a 13 Rhagfyr 2024, pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i rym.