Ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch  

Rhan 1: Mynegi pryder

Dyletswydd i fynegi pryderon

7

Mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol ddyletswydd i fynegi pryderon pan fyddant o’r farn bod diogelwch neu ofal claf yn cael ei danseilio gan waith cydweithwyr neu gan y systemau, y polisïau a’r gweithdrefnau yn y sefydliad y maent yn gweithio ynddo. Rhaid iddynt annog a chefnogi diwylliant lle y mae modd i staff fynegi pryderon mewn ffordd agored a diogel hefyd.

8

Ni ddylech ymrwymo i gontractau neu gytundebau gyda’ch corff cyflogi neu gontractio sy’n ceisio’ch atal rhag mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion, neu gyfyngu’ch gallu i wneud hynny. Bydd contractau neu gytundebau yn ddi-rym os mai eu bwriad yw atal cyflogai rhag gwneud datgeliad wedi’i ddiogelu.2 

2

Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (www.legislation.gov.uk/ ukpga/1998/23 yn diogelu unigolion y maent yn gwneud datgeliadau sy’n ‘tueddu i ddangos’ bod iechyd neu ddiogelwch unigolyn mewn perygl neu y gallai iechyd neu ddiogelwch unigolyn fod mewn perygl. ‘Datgeliadau gwarchodedig’ yw’r rhain.

Goresgyn rhwystrau sy’n atal pobl rhag adrodd

9

Efallai eich bod yn amharod i adrodd pryder am nifer o resymau. Er enghraifft, oherwydd eich bod yn ofni na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud, neu oherwydd y gallai mynegi’ch pryder achosi problemau i gydweithwyr; cael effaith negyddol ar berthnasoedd gwaith; cael effaith negyddol ar eich gyrfa; neu arwain at gŵyn yn cael ei gwneud amdanoch chi.

10

Os ydych yn oedi cyn adrodd pryder o ganlyniad i’r rhesymau hyn, dylech gofio’r canlynol.

  1. Mae gennych ddyletswydd i roi’r pwys mwyaf ar fuddiannau cleifion a gweithredu i’w diogelu, ac mae’r ddyletswydd hon yn drech na theyrngarwch personol a phroffesiynol.
  2. Mae’r gyfraith yn cynnig diogelwch cyfreithiol rhag erledigaeth neu ddiswyddo ar gyfer unigolion sy’n datgelu gwybodaeth er mwyn mynegi pryderon go iawn ac er mwyn amlygu camymddygiad yn y gweithle.3 
  3. Nid oes yn rhaid i chi aros am brawf – bydd modd i chi gyfiawnhau’r cam o fynegi pryder os byddwch yn gwneud hynny mewn ffordd onest, ar sail cred resymol a thrwy ddilyn y camau priodol, hyd yn oes os byddwch wedi gwneud camgymeriad.
3

Am wybodaeth bellach, trowch at Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, Cyfansoddiad GIG neu Protect.

Y camau i’w cymryd er mwyn mynegi pryder

11

Rhaid i chi ddilyn y weithdrefn yn y man lle’r ydych yn gweithio er mwyn adrodd digwyddiadau niweidiol a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Mae hyn oherwydd bod nodi digwyddiadau niweidiol neu ddigwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd yn gynnar, yn gallu golygu bod modd delio gyda materion, bod modd cywiro problemau a bod modd dysgu gwersi.

12

Os oes gennych reswm dros gredu bod cleifion mewn perygl o farw neu ddioddef niwed difrifol am unrhyw reswm, neu y gallent fod mewn perygl o farw neu ddioddef niwed difrifol, dylech adrodd eich pryder i’r unigolyn neu’r sefydliad priodol ar unwaith. Ni ddylech oedi cyn gwneud hyn oherwydd nad ydych chi mewn sefyllfa i gywiro’r mater.

13

Pryd bynnag y bo modd, dylech fynegi’ch pryder i’ch rheolwr neu swyddog priodol yn y sefydliad y mae gennych gontract gydag ef neu sy’n eich cyflogi chi yn y lle cyntaf – fel y meddyg ymgynghorol sy’n gyfrifol am y tîm, y cyfarwyddwr clinigol neu feddygol neu bartner yn y practis. Os yw eich pryder yn ymwneud â phartner, efallai y byddai’n briodol ei godi y tu allan i’r practis – er enghraifft, gyda’r cyfarwyddwr meddygol neu’r swyddog arweiniol dros lywodraethu clinigol ar gyfer eich sefydliad. Os ydych yn weithiwr meddygol proffesiynol dan hyfforddiant, efallai y bydd yn briodol eich bod yn mynegi’ch pryderon i unigolyn penodol yn eich sefydliad hyfforddi. 

14

Rhaid i chi fynegi’r rheswm dros eich pryder mewn ffordd eglur, gonest a gwrthrychol. Dylech gydnabod unrhyw gŵyn bersonol a allai ddeillio o’r sefyllfa, ond dylech ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion.

15

Yn ogystal, dylech gadw cofnod o’ch pryder, ac unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd er mwyn delio ag ef.

Mynegi pryder i reoleiddiwr

16

Dylech gysylltu gyda chorff rheoleiddio megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)4 neu gorff arall y mae ganddo’r awdurdod i ymchwilio i’r mater (megis y rhai a restrir ar ddiwedd yr arweiniad hwn) yn yr amgylchiadau canlynol.

  1. Os nad oes modd i chi godi’r mater gyda’r unigolyn neu’r corff cyfrifol yn lleol oherwydd eich bod o’r farn eu bod yn rhan o’r broblem.
  2. Os ydych wedi mynegi’ch pryder trwy gyfrwng y sianelau lleol, ond nad ydych yn fodlon bod yr unigolyn neu’r corff cyfrifol wedi cymryd camau digonol.
  3. Os oes risg difrifol uniongyrchol i gleifion, ac mae gan reolydd neu gorff allanol arall gyfrifoldeb i weithredu neu i ymyrryd.

Mynegi pryder yn gyhoeddus

17

Gallwch ystyried mynegi’ch pryderon yn gyhoeddus:

  1. os ydych wedi gwneud popeth y gallwch ei wneud er mwyn delio gydag unrhyw bryder trwy ei godi o fewn y sefydliad yr ydych yn gweithio ynddo neu y mae gennych gontract gydag ef, neu gyda’r corff allanol priodol, ac
  2. mae gennych reswm da dros gredu bod cleifion mewn perygl o ddioddef niwed o hyd, ac
  3. na fyddwch yn torri amodau cyfrinachedd.

Ond, dylech gael cyngor (gweler tudalen 11) cyn gwneud penderfyniad fel hyn.

Help a chyngor

18

Os nad ydych yn siŵr a ddylech fynegi’ch pryder, neu sut i fynd ati i fynegi’ch pryder, dylech gael cyngor gan:

  1. aelod uwch o staff neu gydweithiwr diduedd arall
  2. Llinell Gymorth Gyfrinachol CMC5 
  3. eich corff amddiffyn meddygol, coleg brenhinol neu gymdeithas broffesiynol fel Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
  4. y corff rheoleiddio priodol a restrir ar ddiwedd yr arweiniad hwn os yw’ch pryder yn ymwneud gyda chydweithiwr mewn unrhyw broffesiwn arall, neu reolyddion systemau perthnasol eraill os yw’ch pryder yn ymwneud gyda systemau neu sefydliadau yn hytrach nag unigolion
  5. Protect – elusen sy’n darparu cyngor cyfreithiol cyfrinachol yn rhad ac am ddim i bobl y maent yn pryderu am gamweithredu yn y gwaith, ac nad ydynt yn siŵr a ddylent fynegi eu pryder, neu sut y dylent ei fynegi.
5

Diweddarwyd ym mis Mehefin 2013 er mwyn cyfeirio at linell gymorth gyfrinachol CMC. Mae modd cael gwybodaeth bellach trwy droi. Mae modd i chi gysylltu â’r Linell Gymorth trwy ffonio 0161 923 6399.