Gair am ein callawiau Mynegi pryderon, a chymryd camau
Mae’r canllawiau hyn yn nodi ein disgwyliad y bydd pob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia beth bynnag fo’i rôl, yn cymryd camau priodol er mwyn mynegi pryderon ynglŷn â gofal, urddas a diogelwch cleifion, a chymryd camau ynglŷn â’r rheini.
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Mae Arfer meddygol da (2024)yn nodi:
75. Rhaid i chi weithredu yn ddi-oed os ydych yn credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol, neu y gallai fod mewn perygl difrifol.
a. Os na fydd claf yn cael gofal sylfaenol i fodloni eu hanghenion, rhaid i chi weithredu er mwyn sicrhau bod y claf yn cael gofal cyn gynted ag y bo modd, er enghraifft trwy ofyn i rywun sy’n darparu gofal sylfaenol i roi sylw i’r claf ar unwaith
b. Os bydd cleifion mewn perygl oherwydd safle, offer neu adnoddau eraill, polisïau neu systemau sy’n annigonol, dylech ddiogelu cleifion yn y lle cyntaf a chywiro’r mater os oes modd. Yna, rhaid i chi fynegi eich pryder yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.
c. Os bydd gennych chi bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer efallai, ac y gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl, rhaid i chi ofyn am gyngor gan gydweithiwr, eich corff amddiffyn, neu ni. Os ydych yn dal yn bryderus, rhaid i chi adrodd am hyn, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch
76. Os oes gennych chi rôl arwain neu reoli ffurfiol, rhaid i chi gymryd camau gweithredol i greu amgylchedd lle y gall pobl siarad am gamgymeriadau a phryderon mewn ffordd ddiogel. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y rhoddir sylw prydlon a digonol i unrhyw bryderon a godir gyda chi, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.
Mae’r arweiniad hwn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn esbonio sut i weithredu’r egwyddorion yn Arfer meddygol da. Mae’n cynnwys dwy ran.
- Mae Rhan 1: Mynegi pryder yn cynnig cyngor ynghylch mynegi pryder y gallai cleifion fod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, a’r help a’ cymorth sydd ar gael i chi.
- Mae Rhan 2: Gweithredu ynghylch pryder yn esbonio’ch cyfrifoldebau chi pan fydd cydweithwyr neu unigolion eraill yn mynegi pryderon i chi, a sut y dylid delio gyda’r pryderon hynny.1
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Arweinyddiaeth a rheolaeth
Sut y mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i chi
Yn yr arweiniad hwn, defnyddir y termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech’ yn y ffyrdd canlynol.
- Caiff ‘rhaid i chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
- Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
- ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
- na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.
Os ydych chi’n ansicr sut mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i’ch sefyllfa chi, dylech gael cyngor gan yr unigolion a’r cyrff a awgrymir yn yr arweiniad hwn.