Atodiad – Dyfyniadau o Arfer meddygol da
47. Dim ond pan fydd diffyg ymddiriedaeth rhyngoch chi a’r claf yn golygu na allwch barhau i ddarparu gofal clinigol da iddynt y dylech ddod â pherthynas broffesiynol gyda’r claf i ben. Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl am Derfynu’ch perthynas broffesiynol gyda chlaf.
19. Rhaid i chi drin cleifion yn deg. Rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn eu herbyn na chaniatáu i’ch safbwyntiau personol effeithio ar eich perthynas gyda nhw, na’r driniaeth rydych yn ei darparu neu’n ei threfnu. Rhaid i chi beidio â gwrthod neu oedi triniaeth oherwydd eich bod yn credu bod gweithredoedd neu ddewisiadau claf wedi cyfrannu at ei gyflwr.
33. Rhaid i chi ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd i’w adnabod, felly dylech ofyn i gleifion pa gymorth y mae ei angen arnynt, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau.
56. Rhaid i chi beidio â difrïo, gwahaniaethu yn erbyn, bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un ar sail ei nodweddion personol, neu am unrhyw reswm arall. Mae ‘nodweddion personol’ yn golygu ymddangosiad rhywun, ei ffordd o fyw, ei ddiwylliant, ei statws cymdeithasol neu economaidd, neu unrhyw rai o’r nodweddion a warchodir gan ddeddfwriaeth – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
65. Mae parhad gofal yn bwysig i bob claf, ond yn enwedig i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dilyn eu llwybr gofal iechyd eu hunain neu eirioli dros eu hunain. Mae parhad yn arbennig o bwysig pan fydd gofal yn cael ei rannu rhwng timau, rhwng gwahanol aelodau o’r un tîm, neu pan fydd cleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng darparwyr gofal.
I gyfrannu at barhad gofal, rhaid i chi wneud y canlynol:
- rhannu’r holl wybodaeth berthnasol am gleifion (gan gynnwys unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu) gydag eraill sy’n ymwneud â’u gofal, o fewn ac ar draws timau, yn ôl y gofyn
- rhannu gwybodaeth gyda chleifion am;
- cynnydd eu gofal
- pwy sy’n gyfrifol am ba agwedd o’u gofal
- enw’r tîm neu’r clinigydd arweiniol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros eu gofal
- bod yn hyderus bod y wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer gofal parhaus wedi cael ei rhannu;
- cyn i chi fynd oddi ar ddyletswydd
- cyn i chi ddirprwyo gofal, neu
- cyn i chi gyfeirio’r claf at ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol arall
- sicrhau, pan fo hynny’n ymarferol, bod tîm neu glinigydd penodol wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb pan fydd eich rôl gyda gofal claf wedi dod i ben.