Ymrwymiad GMC i siaradwyr Cymraeg

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) heddiw yn gweithredu Safonau’r Gymraeg yn eu gwaith a fydd yn gwella’r gwasanaeth y gall pobl yng Nghymru ddisgwyl ei dderbyn, ac ei gwneud hi’n haws i siaradwyr Cymraeg gyfathrebu â’r GMC yn eu dewis iaith.

Rheoleiddwyr gofal iechyd yw’r grŵp diweddaraf o gyrff y sector iechyd i orfod cydymffurfio gyda’r safonau, sy’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Croesawodd Charlie Massey, Prif Weithredwr y GMC, y safonau newydd.

Dywedodd: ‘Rwy’n falch bod yr amser wedi dod i'r GMC weithredu Safonau’r Gymraeg ochr yn ochr â rheoleiddwyr eraill gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd.

‘Bydd ein gweithredu ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i siaradwyr Cymraeg; bydd yn helpu i wreiddio’r Gymraeg o fewn y sector iechyd, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael cymaint o barch â Saesneg.’

Ynghyd â rheoleiddwyr gofal iechyd eraill a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA), mae’r GMC yn ymuno â sefydliadau eraill yng Nghymru, megis byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG sydd eisioes yn gorfod cydymffurfio a’u safonau eu hunain.

Mae croesawu’r safonau yn rhoi cyfle i’r GMC ddangos ei ymrwymiad i weithio’n effeithiol ac yn sensitif fel rheoleiddiwr pedair gwlad, tra hefyd yn cryfhau ei gysylltiadau a’i enw da ledled Cymru. Mae hefyd yn dangos bod y rheoleiddiwr wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn ei waith.

Ychwanegodd Mr Massey: ‘Rwy’n gobeithio y bydd cleifion, myfyrwyr, a chofrestreion sy’n siarad Cymraeg, a’r holl weithwyr proffesiynol eraill ac aelodau’r cyhoedd sy’n rhyngweithio gyda ni yn teimlo’n fwy cyfforddus o gael y cyfle i wneud hynny yn eu dewis iaith.’

Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y GMC i siaradwyr Cymraeg ar gael yma.