Sut gallwn ni eich helpu i fynegi pryder
Y ffordd gyflymaf a hawsaf i’r rhan fwyaf o bobl fynegi pryder i ni yw drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Os hoffech fwy o gefnogaeth wrth fynegi pryder darllenwch ein canllaw hawdd i'w ddarllen ar fynegi pryder, neu ffoniwch ni ar 0161 923 6602.
Os oes arnoch angen unrhyw un o’r cyhoeddiadau yma yn Gymraeg, anfonwch e-bost i practise@gmc-uk.org a rhoi gwybod i ni pa rai.
Addasiadau rhesymol i bobl ag anableddau
Os oes gennych anabledd ac os hoffech gael cymorth i godi eich pryder, ffoniwch ni ar 0161 923 6602. Gall cynghorydd drafod yr opsiynau gyda chi.
Defnyddio eiriolwr
Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio eiriolwr i’w helpu i fynegi pryder am feddyg. Gallai eiriolwr fod yn berthynas, yn ffrind, neu’n rhywun sy’n eich helpu i reoli eich materion bob dydd. Gallant eich helpu i lenwi’r ffurflen, neu eich helpu i gyfathrebu â ni, gan gynnwys siarad ar eich rhan. Rydym yn fodlon i chi ddefnyddio eiriolwr, ond byddwn yn gofyn i chi gytuno eich bod chi’n fodlon i’r unigolyn hwn eirioli ar eich rhan.