Ein dull o ymdrin ag addasiadau rhesymol
Addasiad rhesymol yw newid yn y ffordd rydym yn cynnig ein gwasanaethau i roi’r un mynediad i berson anabl â pherson nad yw’n anabl.
Pan fyddwn yn gwneud addasiad rhesymol, nid ydym yn barnu a yw rhywun yn bodloni’r diffiniad cyfreithiol o anabledd. Os bydd unigolyn yn dweud wrthym fod ganddynt anabledd, salwch, anaf neu gyflwr iechyd – ac yn wynebu rhwystrau o ran cael gafael ar ein gwasanaethau – rydym yn canolbwyntio ar ystyried a fyddai addasiad rhesymol yn chwalu’r rhwystrau hynny.
Gall pobl fod ag anableddau ac anghenion dros dro, cyfnewidiol neu luosog. Lle bo modd, byddwn hefyd yn cefnogi pobl nad oes ganddynt anabledd ond a allai wynebu anawsterau wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Er enghraifft, rhywun ag anawsterau llythrennedd.
Mae ein canllawiau a’n polisi addasiadau rhesymol yn egluro sut rydym yn gwneud addasiadau. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill a fersiwn hawdd ei darllen.
Canllawiau ar addasiadau rhesymol
Polisi addasiadau rhesymol (Print Bras)
Pa enghreifftiau sydd yna o addasiadau rhesymol?
Dyma rai enghreifftiau o addasiadau rhesymol:
- cyfarpar neu gymhorthion fel dolen anwytho ar gyfer rhywun sy’n defnyddio teclyn cymorth clyw
- gwybodaeth mewn fformat gwahanol, fel print bras, ar gyfer person sydd wedi colli ei olwg
- dogfen hawdd ei darllen i rywun ag anabledd dysgu
- dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer rhywun sydd â nam ar y clyw
- cynorthwyydd i helpu ymgeisydd â phroblemau symudedd i symud o un gorsaf i’r llall mewn canolfan asesu clinigol
- gwneud cwyn am feddyg, cydymaith meddygol (PA), neu gydymaith anaesthesia (AA) dros y ffôn yn hytrach nag yn ysgrifenedig
- darparu trawsgrifiad neu grynodeb o sgwrs ffôn
- newid amser cyfarfod/neu ddarparu egwyliau rheolaidd i helpu unigolyn i ymdopi ag effeithiau meddyginiaeth
- ystyried dull gweithredu ar bapur os yw anabledd rhywun yn ei gwneud yn anodd iddynt ddefnyddio proses gofrestru ar-lein
- gwneud newidiadau i nodweddion ffisegol ein safle, fel gwella’r arwyddion yn ein canolfannau asesu clinigol.