Rwy’n barod i wneud cais

Barod i ddechrau eich cais?

Ar ôl i chi ddarllen y canllawiau hyn a deall y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais, rydych chi’n barod i wneud cais. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a anfonwyd gennym ynglŷn â gwneud cais rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025.

Cyflwyno eich cais

Ar ôl i chi ddechrau eich cais yn GMC Ar-lein, gallwch ei gadw a dod yn ôl ato yn nes ymlaen os bydd angen. Mae gennych dri mis i gwblhau eich cais. Os na fyddwch yn ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi ddechrau un newydd.