Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol

Atodiad – Dyfyniadau o Arfer meddygol da

Maes 4: Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb

Cyflwyniad

Rhaid i gleifion allu ymddiried mewn ynoch chi gyda’u bywydau a’u hiechyd, ac mae’n rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol allu ymddiried yn ei gilydd.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn arddel safonau ymddygiad personol a phroffesiynol uchel. Maent yn onest ac yn ddibynadwy, yn gweithredu gydag uniondeb, yn cynnal terfynau proffesiynol ac ni fyddant yn gadael i’w buddiannau personol effeithio ar eu barn neu eu gweithredoedd proffesiynol.

Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb

81  Rhaid i chi sicrhau bod eich ymddygiad yn cyfiawnhau ymddiriedaeth cleifion ynoch chi ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn eich proffesiwn.

82  Rhaid i chi wastad fod yn onest am eich profiad, eich cymwysterau a’ch rôl bresennol. Rhaid i chi gyflwyno eich hun i gleifion ac egluro eich rôl yn eu gofal.

Cyfathrebu fel gweithiwr meddygol proffesiynol

Pob cyfathrebu proffesiynol

88  Rhaid i chi fod yn onest ac yn ddibynadwy, gan gynnal cyfrinachedd cleifion yn eich holl gyfathrebu proffesiynol ysgrifenedig, llafar a digidol.

89  Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chyfleu fel gweithiwr meddygol proffesiynol yn fanwl, ac nad yw’n ffug neu’n gamarweiniol.  Mae hyn yn golygu:

  1. bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
  2. bod yn rhaid i chi beidio â hepgor unrhyw wybodaeth berthnasol yn fwriadol
  3. bod yn rhaid i chi beidio â lleihau neu fychanu risgiau niwed
  4. bod yn rhaid i chi beidio â chyflwyno barn fel ffaith ddiamau.

Cyfathrebu proffesiynol cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, hyrwyddo a chymeradwyo

90  Wrth gyfathrebu mewn ffordd gyhoeddus fel gweithiwr meddygol proffesiynol – gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu eich gwasanaethau, a hyrwyddo neu gymeradwyo unrhyw wasanaethau neu gynnyrch:

  1. rhaid i chi ddilyn y canllaw ym mharagraff 89 a 90
  2. rhaid i chi ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau
  3. rhaid i chi beidio â manteisio ar fregusrwydd neu ddiffyg gwybodaeth feddygol pobl 
  4. rhaid i chi sicrhau bod yr hyn y byddwch yn ei gyfathrebu yn cyd-fynd â’ch dyletswydd i hyrwyddo a diogelu iechyd cleifion a’r cyhoedd.

91  Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl, sef Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol.

Cyfathrebu preifat

93  Wrth gyfathrebu yn breifat, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau negeseua gwib, dylech gofio y gallai negeseuon neu gyfathrebu arall mewn grwpiau preifat ddod yn gyhoeddus.

Ymateb i risgiau diogelwch

75. Rhaid i chi weithredu yn ddi-oed os ydych yn credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol, neu y gallai fod mewn perygl difrifol.

c. Os bydd gennych chi bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer efallai, ac y gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl, rhaid i chi ofyn am gyngor gan gydweithiwr, eich corff amddiffyn, neu ni.  Os ydych yn dal yn bryderus, rhaid i chi adrodd am hyn, yn unol â pholisi eich gweithle a’n canllaw mwy manwl, sef Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.