Archwiliadau personol a gwarchodwyr
Atodiad – Dyfyniadau o Arfer meddygol da
7 Wrth ddarparu gofal clinigol, rhaid i chi:
- asesu cyflwr(cyflyrau) claf mewn ffordd ddigonol, gan ystyried eu hanes, gan gynnwys
- symptomau
- ffactorau seicolegol, ysbrydol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol
- safbwyntiau, anghenion a gwerthoedd y claf
- cynnal archwiliad corfforol yn ôl yr angen
- darparu (neu drefnu) cyngor, ymchwiliad neu driniaeth addas yn brydlon, yn ôl yr angen
- cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am gyffuriau neu driniaeth (gan gynnwys presgripsiynau rheolaidd) dim ond pan fydd gennych chi wybodaeth ddigonol am iechyd y claf a phan fyddwch yn fodlon y bydd y cyffuriau neu’r driniaeth yn bodloni eu hanghenion
- cynnig, darparu neu roi presgripsiwn am driniaeth effeithiol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
- dilyn ein canllaw mwy manwl ar safonau proffesiynol, Arfer da wrth gynnig, presgripsiynu, darparu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau, os ydych yn presgripsiynu
- ymgynghori â chydweithwyr neu geisio cyngor gan eich clinigydd goruchwylio, pan fo hynny’n briodol
- cyfeirio claf at ymarferydd arall sy’n meddu ar gymwysterau addas pan fydd hyn yn bodloni eu hanghenion.
16 Rhaid i chi gydnabod a pharchu urddas pob claf a’u hawl i breifatrwydd.
17 Os yw’n berthnasol i’ch ymarfer, rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl ar Archwiliadau personol a gwarchodwyr.