Ystadegau ac adroddiadau addasrwydd i ymarfer

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad ar y pryderon a gawn am addasrwydd meddygon i ymarfer. Wrth sôn am addasrwydd i ymarfer, rydym yn golygu gallu meddyg i ymarfer yn ddiogel a chynnal hyder y cyhoedd yn ei broffesiwn.

Read this page in English

2025 adroddiad

Mae ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer yn cynnwys cyfran fach o feddygon bob blwyddyn, lle mae pryderon difrifol am ddiogelwch cleifion neu hyder y cyhoedd.

Mae’r adroddiad eleni yn cynnwys mwy o gyd-destun, eglurder a thryloywder o ran sut rydym yn asesu pryderon.


Back

Cefnogaeth

Gall codi pryderon a mynd drwy ymchwiliad fod yn frawychus i bawb dan sylw. Dyna pam rydym yn darparu gwybodaeth, arweiniad a mynediad at gefnogaeth emosiynol.

Mae’r ystadegau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â phryderon a godwyd am feddygon. Gan mai dim ond ers mis Rhagfyr 2024 rydym wedi bod yn rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn swyddogol, mae’r niferoedd yn fach a gallai cyhoeddi’r ffigurau arwain at risg o adnabod y bobl dan sylw. Felly, ni allwn gyhoeddi data am gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ar hyn o bryd.