Credoau personol ac arfer meddygol

Rydym yn diweddaru ein canllawiau Credoau personol ac arfer meddygol, ac fe wnaethom ofyn am farn drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Diolch i bawb a gymerodd ran. Daeth yr ymgynghoriad i ben am 11.59pm ar 11 Mehefin 2026. Rydym wrthi'n adolygu’r ymatebion a byddwn yn defnyddio’r adborth fel sail i fersiwn derfynol y canllawiau. 

Read this in English

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn

Rydym yn adolygu'r canllawiau Credoau personol ac arferion meddygol (2013).

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o’r canllawiau manylach ar y safonau proffesiynol. Maent yn egluro sut gall meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ddarparu gofal da a diogel a bodloni safonau proffesiynol, gan ystyried eu credoau personol eu hunain a chredoau eu cleifion.

Mae’r canllawiau’n canolbwyntio’n benodol ar gredoau personol mewn ymarfer proffesiynol. Nid yw’n cynnwys credoau a fynegir y tu allan i’r gwaith, na sut rydym yn ystyried pryderon a allai gael eu mynegi wrthym amdanynt.

Fe wnaethom eu cyhoeddi ddiwethaf yn 2013. Ers hynny, rydym wedi gwneud rhai diweddariadau technegol – gan gynnwys ym mis Rhagfyr 2024 i adlewyrchu dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia.

Rydym nawr yn cynnal adolygiad manwl i sicrhau eu bod y canllawiau:

  • yn adlewyrchu datblygiadau ar draws systemau gofal iechyd y DU a newidiadau cymdeithasol ehangach
  • yn dal yn berthnasol i amrywiaeth o sefyllfaoedd ac amgylcheddau gweithredol.

Rydym wedi datblygu’r canllawiau drafft wedi’u diweddaru drwy ddefnyddio llawer o waith ymchwil, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chyngor gan arbenigwyr.

Rydym ni eisiau clywed gennych chi

Mae’n hanfodol bod ein canllawiau Credoau personol ac arfer meddygol yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pawb y maent yn effeithio arnynt.

Roedd arnom eisiau deall hefyd sut mae Credoau personol ac arfer meddygol yn berthnasol i’r gwahanol ardaloedd ac amgylcheddau lle mae’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio yn gweithio.

Fe wnaethom wahodd cleifion a’r rheini sy’n eu cefnogi, meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau gofal iechyd o bob cwr o’r DU i rannu eu barn am y canllawiau drafft.

Rydym wrthi’n adolygu’r adborth a gawsom. Bydd yr ymatebion yn ein helpu i lunio fersiwn derfynol y canllawiau a chefnogi meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia i ddarparu gofal da a diogel i gleifion.