Gwybodaeth am y canllawiau
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i driniaeth a gofal plant a phobl ifanc o’u geni hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed.
Ei nod yw helpu meddygon, cymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anaesthesia (AA) i deimlo’n gymwys ac yn hyderus i ddiwallu anghenion pobl ifanc, p’un a ydynt yn gweithio gyda nhw’n rheolaidd ai peidio. Mae’n berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni, i’r graddau y mae’n berthnasol i’w hymarfer unigol.
Mae’r canllawiau i blant a phobl ifanc yn cyd-fynd â’n safonau proffesiynol craidd, Arfer meddygol da, sy’n nodi’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anaesthesia sydd wedi cofrestru gyda ni.
Gwybodaeth am yr ymgynghoriad
Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni fynd ati ddiwethaf i ddiweddaru’r canllawiau , ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach wedi newid ac esblygu. Rydym yn cynnal adolygiad manwl i sicrhau bod y canllawiau’n adlewyrchu’r datblygiadau hyn ac yn gallu cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel yn effeithiol, nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r prif newidiadau’n cynnwys:
- cyfuno dau ddarn cyfredol o ganllawiau - Amddiffyn plant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed - yn un ddogfen symlach, gan hwyluso’r broses o’i defnyddio
- diweddariadau sy’n ceisio cefnogi arferion cyfathrebu a gwneud penderfyniadau gwell rhwng y rhai sy’n ymwneud â gofal plentyn, cleifion a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- egwyddorion wedi’u diweddaru sy’n nodi’n glir beth i’w wneud wrth drin plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.