Gofalu am blant a phobl ifanc 

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar ofal a thriniaeth i blant a phobl ifanc. Ac rydym eisiau clywed eich barn chi.   

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 24 Medi 2026 ac yn dod i ben am 11.59pm ar 17 Rhagfyr 2026.

Read this in English

Dywedwch eich dweud

Gwybodaeth am y canllawiau 

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i driniaeth a gofal plant a phobl ifanc o’u geni hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed.

Ei nod yw helpu meddygon, cymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anaesthesia (AA) i deimlo’n gymwys ac yn hyderus i ddiwallu anghenion pobl ifanc, p’un a ydynt yn gweithio gyda nhw’n rheolaidd ai peidio. Mae’n berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni, i’r graddau y mae’n berthnasol i’w hymarfer unigol. 

Mae’r canllawiau i blant a phobl ifanc yn cyd-fynd â’n safonau proffesiynol craidd, Arfer meddygol da, sy’n nodi’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anaesthesia sydd wedi cofrestru gyda ni. 

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad

Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni fynd ati ddiwethaf i ddiweddaru’r canllawiau , ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach wedi newid ac esblygu. Rydym yn cynnal adolygiad manwl i sicrhau bod y canllawiau’n adlewyrchu’r datblygiadau hyn ac yn gallu cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel yn effeithiol, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r prif newidiadau’n cynnwys:

  • cyfuno dau ddarn cyfredol o ganllawiau - Amddiffyn plant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed - yn un ddogfen symlach, gan hwyluso’r broses o’i defnyddio
  • diweddariadau sy’n ceisio cefnogi arferion cyfathrebu a gwneud penderfyniadau gwell rhwng y rhai sy’n ymwneud â gofal plentyn, cleifion a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
  • egwyddorion wedi’u diweddaru sy’n nodi’n glir beth i’w wneud wrth drin plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Cwblhau’r ymgynghoriad

  • I gymryd rhan, gallwch gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad ar SmartSurvey.
  • Er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi, mae opsiwn i gadw eich cynnydd a pharhau yn nes ymlaen.
  • Ar ôl cwblhau’r ymateb, gallwch argraffu eich ymateb llawn os dymunwch.
 

Fformatau ac opsiynau amgen

  • Os na allwch gwblhau’r ymgynghoriad ar-lein a bod angen addasiad rhesymol arnoch, anfonwch e-bost atom yn professionalstandards@gmc-uk.org.
  • Gallwch anfon unrhyw ymatebion printiedig i’r ymgynghoriad at: Tîm Safonau a moeseg, Cyngor Meddygol Cyffredinol, 3 Hardman Street, Manchester, M3 3AW. 
  • Mae’r ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg ar ein platfform ymgynghori. Os oes angen yr ymgynghoriad arnoch mewn ieithoedd eraill, mewn fformat hawdd ei ddarllen neu mewn fformat arall, ffoniwch ni ar 0161 923 6602 neu anfonwch e-bost at publications@gmc-uk.org.