Arweinyddiaeth a Rheolaeth aMynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau

Rydym yn diweddaru ein canllawiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau, ac fe wnaethom ofyn am farn drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos, rhwng 30 Hydref 2025 a 23:59 ar 22 Ionawr 2026, ac mae wedi dod i ben erbyn hyn. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu barn.

Read this in English

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau. Fe wnaethom gyhoeddi'r ddwy set o ganllawiau yn wreiddiol yn 2012. Er bod y canllawiau wedi cael diweddariadau technegol ers hynny, gan gynnwys ym mis Rhagfyr 2024 i adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, rydym wedi bod yn cynnal adolygiad manwl i sicrhau eu bod yn adlewyrchu datblygiadau ar draws systemau gofal iechyd y DU a newidiadau cymdeithasol ehangach. Rydym am sicrhau bod y canllawiau yn parhau i fod yn glir, yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Rydym yn adolygu'r ddwy set o ganllawiau gyda'i gilydd oherwydd eu bod yn gysylltiedig ac yn rhannu nifer o faterion allweddol rydym eisiau eu harchwilio. Mae arweinwyr a rheolwyr yn rhan hollbwysig o’r gwaith o siapio diwylliannau gweithleoedd lle mae staff yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus i fynegi pryderon ynghylch diogelwch cleifion heb ofni canlyniadau negyddol a gyda'r sicrwydd y bydd gwneud hynny'n arwain at welliannau ystyrlon.

Mae'r adolygiad hwn o'r canllawiau yn adeiladu ar egwyddorion allweddol y fersiwn diweddaraf o Arfer meddygol da, sef ein canllawiau craidd ar safonau proffesiynol. Mae hyn yn canolbwyntio ar ymddygiadau a gwerthoedd sy'n meithrin diwylliannau teg, cynhwysol a thosturiol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i godi llais, rhannu syniadau, a gofyn cwestiynau.

Mae'r ddwy set o ganllawiau ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia sydd wedi cofrestru gyda ni. Gellir eu defnyddio i'r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer pob un o'r proffesiynau gwahanol hyn. Mae'r canllawiau ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia o bob math o rôl a sector, p'un a ydynt yn gweld cleifion yn rheolaidd, neu'n gweithio yn y GIG neu'r tu allan iddo.

Pam roeddem yn awyddus i glywed gennych chi

Mae'n hanfodol bod ein canllawiau'n adlewyrchu profiadau go iawn cleifion, meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, a'r amrywiaeth eang o unigolion sy'n darparu gofal iechyd. Ein nod yw i'r ddwy set o ganllawiau helpu’r holl unigolion cofrestredig - meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia - wrth iddynt geisio gwneud diogelwch cleifion a gofal o ansawdd uchel yn flaenoriaeth mewn gwasanaethau iechyd.

Gall y materion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn fod yn berthnasol mewn ffordd wahanol ar draws systemau a deddfwriaeth gofal iechyd Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Dyna pam ein bod wedi annog unigolion a sefydliadau o bedair gwlad y DU i gymryd rhan.

Bydd yr adborth a gawsom yn llywio'r canllawiau diweddaraf ac yn ein helpu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pawb y maent yn effeithio arnynt.