Astudiaethau achos
Enghreifftiau o gwynion nodweddiadol
Mae’r adran hon yn darparu astudiaethau achos ffuglennol wedi’u seilio ar gwynion nodweddiadol. A yw’ch cwyn chi yn debyg i un o’r rhain?
Darllenwch y disgrifiad byr o’r gŵyn a chliciwch i wrando ar stori’r claf, ac yna, pwy y gwnaethant gwyno iddynt ym mhob achos.
Mewn achosion sy’n sôn am eich Canolfan Helpu a Chynghori leol, nodir y manylion cyswllt yn yr adran ‘Help Lleol’.
ENW: Eileen, OEDRAN: 69
Arweiniodd anghydfod gyda meddyg ysbyty at y meddyg yn gwrthod parhau’r driniaeth.
ENW: Sarah, OEDRAN: 35
Tynnwyd teulu oddi ar restr meddygfa yn dilyn cyfres o anghydfodau.
ENW: Mai, OEDRAN: 42
Cwyn ar ôl problem gyda ffioedd meddygol.
ENW: Andrew, OEDRAN: 46
Aeth Andrew ati i gwyno am sylwadau meddyg mewn adroddiad meddygol ar gyfer cwmni yswiriant.
ENW: Keisha, OEDRAN: 24
Penderfynodd meddyg gychwyn Keisha ar gyffur treialu heb esbonio'r sgÓl-effeithiau posibl.
ENW: Paul, OEDRAN: 31
Rhoddwyd cyngor meddygol gwael i Paul ar wefan a oedd yn cael ei rhedeg gan feddyg.
ENW: Rajesh, OEDRAN: 53
Roedd Rajesh yng nghanol anghydfod gyda chymydog, sy’n feddyg.