Pwy y dylid cwyno iddynt
Bydd y broses o wneud cwyn yn haws ac yn peri llai o straen os byddwch yn cyfeirio’ch cwyn at y sefydliad cywir y tro cyntaf. Bydd y rhan fwyaf o gwynion yn cael eu datrys yn lleol yn y man lle y rhoddwyd gofal i chi. Cliciwch ar Meddyg Teulu / clinig / ysbyty i ddarganfod mwy.
Dim ond y cwynion mwyaf difrifol y bydd CMC yn delio â nhw – Byddai angen i CMC ymwneud yn syth gydag unrhyw sefyllfa lle y mae meddyg yn peri risg i gleifion – gallwch ddarllen mwy trwy ddewis CMC ar y chwith.
Ceir sefydliadau helpu a chynghori yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth i chi trwy gydol y broses, yn ogystal â chyngor ynghylch pwy y dylid cwyno iddynt. cliciwch ar Help a chyngor yng Nghymru i ddarllen mwy.
Os nad yw’ch cwyn yn ymwneud â meddyg penodol, ond mae’n ymwneud â system, sefydliad neu fath arall o weithiwr iechyd proffesiynol, dewiswch Cwynion eraill.