Regulating doctors, ensuring good medical practice

Welsh language scheme / Cynllun Iaith Gymraeg

English

CMC yn Cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg Diwygiedig

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yn ymroi i gynnig gwasanaethau yn eu dewis iaith i’r cyhoedd yng Nghymru, boed hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac mae cynllun iaith Gymraeg wedi bod ganddo er Mehefin 2005. Egwyddor sylfaenol Cynllun Iaith Gymraeg y CMC yw y byddwn yn trin ieithoedd y Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Mae strwythur y CMC a’n Cyngor wedi newid yn sylweddol ers cyflwyno’r cynllun nôl yn 2005.  O ganlyniad, cynhaliodd y CMC adolygiad o’r cynllun yn ystod 2009 i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Ystyriodd yr adolygiad pob elfen o’r cynllun a cheisiwyd safbwyntiau staff y CMC a’r rhanddeiliaid allanol hefyd.

Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru a’i newid i adlewyrchu strwythur llywodraethu newydd y sefydliad. Rydym hefyd wedi llunio dogfen arweiniad mewnol ar weithrediad y cynllun i staff y CMC ac mae goblygiadau’r iaith Gymraeg bellach yn rhan o unrhyw asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb.

Cymeradwywyd y cynllun diwygiedig gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Ionawr 2010.

Ceisiwn gyfathrebu â’r cyhoedd yng Nghymru yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn enwedig wrth:

  • Ddarparu neu gyflwyno gwasanaethau, megis delio â chwynion am feddygon neu lunio cyfarwyddyd sydd o ddefnydd neu o gymorth i’r cyhoedd

  • Ymgynghori â’r cyhoedd yng Nghymru

  • Hyrwyddo proffil CMC mewn digwyddiadau cyhoeddus

  • Dosbarthu deunydd wedi’i frandio CMC a ddefnyddir yng Nghymru.

  • Gellir cyflwyno unrhyw gŵyn yn erbyn meddyg gan aelodau’r cyhoedd, meddygon, awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau’r GIG yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Lle mae’r cwynion o frys mawr ac o natur gymhleth, mae CMC yn cadw’r hawl i benderfynu ar y ffordd gyflymaf o ymdrin â’r cwynion hynny, boed yn y Gymraeg neu’r Saesneg, er mwyn peidio ag oedi proses deg yn ormodol i’r achwynydd neu’r meddyg. 

Darllenwch ein Cynllun Iaith Gymraeg:

Cynllun Iaith Gymraeg – Cymraeg (127kb, pdf)

Cynllun Iaith Gymraeg – Saesneg (125kb, pdf)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg CMC, cysylltwch â’r Pennaeth Materion Cymreig ar 029 2050 4060 neu gmc.wales@gmc-uk.org.