The GMC in Wales / CMC yng Nghymru
English
Am CMC Cymru
Lansiwyd swyddfa CMC yng Nghymru, a leolir yng Nghaerdydd, yn swyddogol ym mis Mehefin 2005. Mae'n gyfrifol am y gweithgareddau canlynol:
- Monitro a chynorthwyo ymateb CMC i ddatblygiadau o ran polisi, deddfwriaeth a strwythurau iechyd yng Nghymru
- Cysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch newidiadau i reoliadau meddygol
- Sicrhau yr ystyrir llais cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru wrth ddatblygu polisi ac arweiniad CMC
- Codi ymwybyddiaeth o rôl a swyddogaethau CMC yng Nghymru
- Darparu pwynt cyswllt i Aelodau'r Cynulliad, meddygon a'u cynrychiolwyr, cleifion a'r cyhoedd, academyddion a chyflogwyr
Ymholiadau eraill
Am fanylion ynghylch ystod y gwasanaethau a ddarparir gan CMC, a sut i fanteisio arnynt, cliciwch ar y cysylltiadau isod.
Am fanylion cyswllt y gwasanaethau hyn, trowch at ein hadran Cysylltiadau.
Newyddion CMC Cymru