Cysylltiadau Defnyddiol
Cwyno am feddyg
Trowch at ein cyhoeddiad Sut i Gwyno am feddyg (pdf) ar brif wefan CMC.
Fersiynau mewn ieithoedd tramor
Yn ogystal, gallwch droi at fersiynau i’w lawrlwytho o Gwneud cwyn – canllaw i gleifion’ mewn Arabeg, Bengaleg, Hindi, Pwnjabeg ac Wrdw ar wefan CMC.
Os ydych yn weithiwr iechyd professiynol
Rydym yn darparu arweiniad ar wahân i feddygon, cyfarwyddwyr meddygol a rheolwyr llywodraethu clinigol ynghylch cyfeirio meddyg at CMC. Trowch at Cyfeirio meddyg at CMC: Canllaw i weithwyr iechyd proffesiynol ar wefan CMC.
Asiantaethau cymorth eraill
Ceir nifer o asiantaethau cynghori sy’n gallu rhoi cyngor i chi ynghylch y gwahanol brosesau a allai fod yn briodol er mwyn delio â’ch pryderon penodol. Gall rhai gynnig cymorth wrth ddefnyddio’r gwahanol brosesau megis gweithdrefnau cwyno preifat neu GIG, neu weithdrefnau CMC neu reolyddion proffesiynol eraill ym maes iechyd.
Nodir manylion cyswllt rhai o’r sefydliadau hyn isod:
Action Against Medical Accident (AvMA)
Mae Action against Medical Accidents (AvMA) yn elusen annibynnol sy’n hyrwyddo diogelwch a chyfiawnder i gleifion. Mae’n cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim, yn ogystal â gwasanaeth gwaith achosion ysgrifenedig i bobl y mae camymarfer neu ddamwain feddygol wedi effeithio arnynt. Mae AvMA yn delio â chwynion difrifol ynghylch gofal iechyd preifat, yn ogystal ag achosion GIG, ac mae’n gallu cynnig cyngor a chymorth meddygol-gyfreithiol arbenigol gan gynnwys cwyno i CMC a chymryd camau cyfreithiol. Llinell Gymorth (Llun-Gwener 10-5): 0845 123 2352 Gwefan: http://www.avma.org.uk/
Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)
Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol ac am ddim mewn dros 3,000 o leoliadau gan gynnwys canolfannau, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd.
Mae modd cael cyngor wyneb yn wyneb a dros y ffôn. Mae’r rhan fwyaf o ganolfannau yn cynnig ymweliadau cartref ac mae rhai yn cynnig cyngor mewn negeseuon e-bost hefyd.
Mae eu cyngor yn helpu pobl i ddatrys problemau sy’n ymwneud â dyledion, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, gwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudo, materion i ddefnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i unrhyw un beth bynnag fo eu hil, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu hoedran, eu cenedligrwydd, eu hanabledd neu eu crefydd.
A fyddech gystal â throi at wefan gwybodaeth gyhoeddus CAB sef http://www.adviceguide.org.uk/ neu Chwilio am eich CAB lleol os bydd angen i chi gael cyngor.