Trafod eich gofal gyda'ch meddyg

Gall siarad gyda'ch meddyg fod yn brofiad braidd yn frawychus. Ond mae'n bwysig eu bod yn eich cynorthwyo pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal.

Mae ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd yn nodi sut y dylai meddygon gael sgyrsiau gyda chleifion.

Wrth siarad gyda chi, dylai'ch meddyg: 

  • siarad gyda chi mewn ffordd y gallwch ei deall yn hawdd
  • esbonio'r holl driniaethau sydd ar gael mewn ffordd glir, ynghyd â'r hyn y byddai pob un yn ei olygu
  • mynd trwy fanteision a risgiau pob triniaeth – dylai hyn gynnwys y dewis o wneud dim byd
  • eich helpu i ddeall eich dewisiadau a'u cofio
  • darganfod yr hyn sy'n bwysig i chi a dweud wrthych sut y gallai gwahanol driniaethau effeithio ar eich bywyd
  • gofyn i chi nodi pa risgiau yr ydych yn teimlo'n gyffyrddus amdanynt.

Rhaid i'ch meddyg wrando arnoch, cynnig y cyfle i chi ofyn cwestiynau ac ymateb mewn ffordd onest pan fyddwch yn gwneud hynny. Efallai y bydd o gymorth i chi ysgrifennu rhai cwestiynau cyn i chi siarad gyda nhw, os ydych yn gallu gwneud hynny.

Ni ddylent fyth eich rhuthro i wneud penderfyniad, a dylent eich annog i ystyried y dewisiadau sydd ar gael i chi. Dylent roi amser i chi drafod eich dewisiadau gyda theulu, ffrindiau neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt hefyd.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd deall Saesneg llafar, dylai'ch meddyg ddefnyddio cyfieithydd neu wasanaeth cyfieithu pan fyddant yn siarad gyda chi.

Eich helpu i siarad gyda'ch meddyg

Sefydliad sy'n ceisio gwella'r sgyrsiau rhwng meddygon a chleifion yw Choosing Wisely UK. Mae wedi creu dull defnyddiol er mwyn eich helpu pan fyddwch yn trafod triniaethau gyda'ch meddyg.  Defnyddiwch y llythrennau canlynol, M.R.A.D. er mwyn gofyn:

Beth yw'r manteision? 
Beth yw'r risgiau?
Beth yw'r dewisiadau amgen?
Beth os byddaf yn penderfynu gwneud dim?