Dewch i adnabod Arfer meddygol da 2024

Mae Arfer meddygol da wedi’i ddiweddaru.  Mae’n nodi’r safonau gofal cleifion ac ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob meddyg yn y DU, ar draws pob arbenigedd, cyfnod gyrfa a sector, , a phob cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia sydd wedi cofrestru â ni.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English



Os ydych chi’n feddyg, yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia  ar ein cofrestr, byddwch eisoes yn gyfarwydd â nifer o egwyddorion Arfer meddygol da, megis gweithio mewn partneriaeth gyda chleifion a chadw eich sgiliau yn gyfredol.

Gallwch ddarllen drwy'r holl newidiadau yn Arfer meddygol da 2024 - beth sy'n newydd ym mhob maes? Mae'n bwysig i chi ymgyfarwyddo â'r safonau wedi’u diweddaru, ddaeth i rym ar 30 Ionawr 2024  ar gyfer meddygon ac ar 13 Rhagfyr 2024 ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

Darllenwch y fersiwn diweddaraf o Arfer meddygol da 2024


Pum diweddariad allweddol

Mae’r safonau yn canolbwyntio ar ymddygiad a gwerthoedd sy’n cynorthwyo gwaith tîm da, yn gwneud i bawb deimlo’n ddiogel i godi eu llais, ac yn grymuso meddygon cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia i ddarparu gofal o ansawdd. Yn benodol, rydym wedi diweddaru pum maes allweddol yn Arfer meddygol da er mwyn eich helpu i:

  • greu gweithleoedd sy’n parchu, sy’n deg ac sy’n dosturiol i gydweithwyr a chleifion
  • hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar ar y claf
  • mynd i’r afael â gwahaniaethu
  • hyrwyddo arweinyddiaeth deg a chynhwysol
  • cynorthwyo parhad gofal a dirprwyo diogel.


Canllawiau manylach

I helpu meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia  i gymhwyso Arfer meddygol da 2024, rydym hefyd wedi adnewyddu rhai darnau o arweiniad cefnogol.

Mae’r rhain yn adeiladu ar Arfer meddygol da i ddarparu rhagor o fanylion am ein disgwyliadau o weithwyr meddygol proffesiynol yn y meysydd hyn. Daeth y rhain i rym ar 30 Ionawr 2024 ar gyfer meddygon ac ar 13 Rhagfyr 2024 ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. 



Diben Arfer meddygol da

Mae Arfer meddygol da yn fframwaith safonau proffesiynol i’ch arwain  pan fyddwch yn gofalu am gleifion ac yn gweithio gyda chydweithwyr. Mae’r safonau yn disgrifio arfer da, ond nid set o reolau mohonynt. Dylech eu gweithredu gan ddefnyddio eich barn, o dan yr amgylchiadau penodol y byddwch yn eu hwynebu.

Gan ymateb i adborth yn ein hymgynghoriad, mae Arfer meddygol da bellach yn cynnwys esboniad manwl am sut y mae’r safonau yn ymwneud â’n gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer.

Os mynegir pryder gyda ni, byddwn bob amser yn ystyried yr amgylchiadau unigol, ac yn ystyried unrhyw ffactorau perthnasol yr ydym yn ymwybodol ohonynt, megis:

  • pa mor ddifrifol yw’r pryder. Mae hyn yn cynnwys ystyried i ba raddau y mae’r meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia wedi gwyro o’r safonau, a yw’r ymddygiad yn fwriadol, a yw’r pryder yn ymwneud â cham-drin pŵer, ac a yw’r ymddygiad neu’r pryder yn ymwneud ag un digwyddiad neu a yw wedi digwydd fwy nag unwaith.
  • systemau a ffactorau rhyngbersonol yn amgylchedd gwaith y meddyg, y cydymaith meddygol a’r cydymaith anesthesia, a’u rôl neu lefel eu profiad
  • sut ymatebodd y meddyg , y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia i’r pryder, gan gynnwys a ydynt wedi dangos dirnadaeth ac a oes tystiolaeth o adferiad.

Ewch i’n tudalennau gwe am ragor o wybodaeth am brosesau addasrwydd i ymarfer a’r cymorth sydd ar gael i feddygon.   

Darllenwch fwy am ein prosesau addasrwydd i ymarfer a’r cymorth sydd ar gael i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.