Diben Arfer meddygol da
Mae Arfer meddygol da yn fframwaith safonau proffesiynol i’ch arwain pan fyddwch yn gofalu am gleifion ac yn gweithio gyda chydweithwyr. Mae’r safonau yn disgrifio arfer da, ond nid set o reolau mohonynt. Dylech eu gweithredu gan ddefnyddio eich barn, o dan yr amgylchiadau penodol y byddwch yn eu hwynebu.
Gan ymateb i adborth yn ein hymgynghoriad, mae Arfer meddygol da bellach yn cynnwys esboniad manwl am sut y mae’r safonau yn ymwneud â’n gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer.
Os mynegir pryder gyda ni, byddwn bob amser yn ystyried yr amgylchiadau unigol, ac yn ystyried unrhyw ffactorau perthnasol yr ydym yn ymwybodol ohonynt, megis:
- pa mor ddifrifol yw’r pryder. Mae hyn yn cynnwys ystyried i ba raddau y mae’r meddyg wedi gwyro o’r safonau, a yw’r ymddygiad yn fwriadol, a yw’r pryder yn ymwneud â cham-drin pŵer, ac a yw’r ymddygiad neu’r pryder yn ymwneud ag un digwyddiad neu a yw wedi digwydd fwy nag unwaith.
- systemau a ffactorau rhyngbersonol yn amgylchedd gwaith y meddyg a’u rôl neu lefel eu profiad
- sut ymatebodd y meddyg i’r pryder, gan gynnwys a ydynt wedi dangos dirnadaeth ac a oes tystiolaeth o adferiad.
Ewch i’n tudalennau gwe am ragor o wybodaeth am brosesau addasrwydd i ymarfer a’r cymorth sydd ar gael i feddygon.