Cydsynio i ymchwil (crynodeb)
Mae’n hollbwysig cael cydsyniad gan y rhai sy'n cymryd rhan mewn ymchwil. Yn y canllawiau hyn, rydym yn edrych ar sut gallwch chi wneud yn siŵr bod cydsyniad yn ddilys ac yn seiliedig ar wybodaeth. Rydym hefyd yn tynnu sylw at ba bryd y bydd angen cydsyniad ysgrifenedig arnoch a phryd y gallai fod angen i chi rannu’r hyn rydych yn ei wneud ag eraill.
Dylid rhoi ystyriaeth ychwanegol i rai grwpiau o gyfranogwyr. Rydym wedi cynnwys cyngor manylach os yw eich cyfranogwr ymchwil yn un o’r canlynol:
- plentyn neu berson ifanc
- oedolyn agored i niwed
- oedolyn sydd heb alluedd.
Mae adran hefyd ar beth i'w wneud os ydych am gynnal ymchwil mewn argyfwng neu ymchwil sy'n ymwneud â meinwe ddynol.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 4 Mai 2010.