Cleifon sy’n ceisio cyngor neu wybodaeth ynghylch cael cymorth i farw

Cleifon sy’n ceisio cyngor neu wybodaeth ynghylch cael cymorth i farw

1

Bydd meddygon yn wynebu sialensiau anodd wrth ymateb mewn ffordd sensitif a thosturiol i glaf sy’n ceisio cyngor neu wybodaeth ynghylch prysuro eu marwolaeth, gan sicrhau ar yr un pryd na fydd eu hymateb yn mynd yn groes i’r gyfraith trwy annog neu gynorthwyo’r claf i gyfawni hunanladdiad.1 

1

Yn y ddogfen hon, rydym yn defnyddio’r derminoleg ‘diweddu eu bywyd eu hunain’ yn lle hunanladdiad ac eithrio wrth gyfeirio’n uniongyrchol at droseddau.

2

Mae Arfer Meddygol Da yn nodi mewn ffordd eglur bod gwrando ar gleifon, darparu gwybodaeth iddynt, a pharchu eu penderfyniadau a’u dewisiadau yn rhan annatod o arfer da. Rhaid i feddygon:

  1. ddangos parch tuag at fywyd dynol
  2. sicrhau eu bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eu claf
  3. cydymffurfo gyda’r cyfreithiau a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i’w gwaith
  4. sicrhau bod eu hymddygiad yn cyfawnhau ymddiriedaeth eu cleifon ynddynt bob amser, yn ogystal ag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn
  5. gwrando ar gleifon a pharchu eu safbwyntiau ynghylch eu hiechyd
  6. darparu’r wybodaeth i gleifon y byddant yn ei dymuno neu y byddant ei hangen er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd neu eu gofal iechyd, ac ateb cwestiynau cleifon mewn ffordd onest, i’r graddau ag y bo hynny’n ymarferol, ac mewn ffordd mor lawn ag y bydd y claf yn ei dymuno
  7. trin cleifon fel unigolion a pharchu eu preifatrwydd a’u hurddas
  8. parchu hawl cleifon cymwys i wneud penderfyniadau am eu gofal, gan gynnwys eu hawl i wrthod triniaeth, hyd yn oed os bydd hyn yn arwain at eu marwolaeth2 
  9. darparu gofal clinigol da, gan gynnwys triniaeth er mwyn rhoi sylw i boen a symptomau eraill y claf sy’n peri gofd iddynt
2

Ni fydd claf y byddant yn marw o ganlyniad i ddilyniant naturiol eu clefyd ar ôl gwrthod triniaeth i ymestyn eu bywyd, yn cyfawni hunanladdiad. Ymddiriedolaeth GIG Airedale NHS v Bland [1993] 1 All ER 821, Re JT (Oedolyn: Gwrthod triniaeth feddygol) [1998] 1 FLR 48 ac Re AK (Triniaeth feddygol: Caniatâd) [2001] 1 FLR 129.

3

Yn ogystal, mae canllawiau ynghylch Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau yn nodi rhwymedigaethau meddygon i:

  1. drafod eu dewisiadau o ran triniaeth gyda chleifon (gan gynnwys y dewis o beidio cael unrhyw driniaeth) a chynlluniau ar gyfer triniaeth yn y dyfodol, gan gynnwys y mathau o driniaethau neu ofal y byddai cleifon yn eu dymuno – neu na fyddent yn eu dymuno – pan na fydd modd iddynt wneud neu fynegi eu penderfyniadau eu hunain mwyach
  2. creu cyfeoedd i gleifon fynegi pryderon ac ofnau ynghylch datblygiad eu clefyd ac ynghylch eu marwolaeth, ac i fynegi eu dymuniadau.
4

Yn ogystal, mae’n nodi mewn ffordd eglur nad oes gofyn i feddygon ddarparu triniaethau na fyddant o fudd cyffredinol i’r claf yn eu barn nhw, neu y byddant yn achosi niwed i’r claf.

5

Pan fydd cleifon yn cyfeirio at gynorthwyo hunanladdiad neu’n gofyn am wybodaeth y gallai eu hannog neu eu cynorthwyo i orffen eu bywydau, nid oes modd i barch tuag at ymreolaeth claf gyfawnhau gweithredu anghyfreithlon.3 

3

Mae’n rhaid i feddygon sy’n ansicr ynghylch sut y gellir gweld gweithred benodol yn y gyfraith geisio cyngor cyfreithiol cyfredol. Gellir cael hwn gan sefydliad amddiffyn, cymdeithas broffesiynol neu adran gyfreithiol cyfogwr.

6

Dylai meddygon:

  1. fod yn barod i wrando ac i drafod y rhesymau dros gais y claf
  2. cyfyngu ar unrhyw gyngor neu wybodaeth mewn ymateb, i:
  3. i. esboniad ei bod yn drosedd i unrhyw un annog neu gynorthwyo person i gyfawni neu geisio cyfawni hunanladdiad, a

    ii. cyngor gwrthrychol am y cyfreithlon opsiynau clinigol (fel tawelyddion a gofal lliniarol arall) a fyddai ar gael pe bai claf yn cyrraedd penderfyniad sefydlog i derfynu eu bywyd eu hunain.

    Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw hyn yn wir atal meddyg rhag cytuno ymlaen llaw i leddfu’r boen a’r anghysur gysylltiedig ar gyfer claf o’r fath dylai y angen yn codi ar gyfer rheoli symptomau o’r fath.

  4. bod yn barchus a thrugarog a parhau i ddarparu gofal priodol ar gyfer y claf
  5. archwilio dealltwriaeth y claf o’u cyfwr presennol a chynllun gofal
  6. asesu a oes gan y claf unrhyw rai heb eu bodloni anghenion gofal lliniarol, gan gynnwys poen a rheoli symptomau, seicolegol, cymorth cymdeithasol neu ysbrydol.
7

Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw beth yn yr arweiniad hwn yn atal meddygon rhag presgripsiynu meddyginiaethau neu driniaeth er mwyn lleddfu poen neu symptomau gofdus eraill. Mae Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau yn rhoi dyletswydd ar feddygon i ddarparu gofal o’r fath.