Rhan 2: Gweithredu ynghylch pryder
Pob meddyg
Mae gan bob meddyg gyfrifoldeb dros annog a chefnogi diwylliant lle y mae modd i staff fynegi pryderon mewn ffordd agored a diogel.
Mae modd i bryderon am ddiogelwch cleifion ddod o nifer o ffynonellau, megis cwynion gan gleifion, pryderon gan gydweithwyr, adroddiadau am ddigwyddiadau difrifol ac archwiliadau clinigol. Gallai pryderon fod yn ymwneud gyda safleoedd annigonol, offer, adnoddau eraill, polisïau neu systemau, neu ymddygiad, iechyd neu berfformiad staff neu dimau amlddisgyblaethol. Os byddwch yn cael y wybodaeth hon, mae gennych gyfrifoldeb i weithredu yn ei chylch mewn ffordd brydlon a phroffesiynol. Mae modd i chi wneud hyn trwy gywiro’r mater (os oes modd), ymchwilio i’r pryder a delio gydag ef yn lleol, neu gyfeirio digwyddiadau neu gwynion difrifol neu y maent wedi codi fwy nag unwaith, at reolwyr uwch neu’r awdurdod rheoleiddio perthnasol.
Meddygon y mae ganddynt gyfrifoldebau ychwanegol
Os ydych yn gyfrifol am lywodraethu clinigol neu os oes gennych gyfrifoldebau rheoli ehangach o fewn eich sefydliad, mae gennych ddyletswydd i helpu pobl i adrodd eu pryderon ac i alluogi pobl i weithredu ynghylch pryderon a fynegir iddynt.
Os oes gennych rôl neu gyfrifoldeb rheoli, rhaid i chi sicrhau:
- bod systemau a pholisïau yn bodoli er mwyn galluogi pobl i fynegi pryderon, ac er mwyn sicrhau bod modd ymchwilio i bryderon a chwynion yn llawn ac yn brydlon6
- nad ydych yn ceisio atal cyflogeion neu gyn gyflogeion rhag mynegi pryderon ynghylch diogelwch cleifion – er enghraifft, ni ddylech gynnig neu gymeradwyo contractau neu gytundebau sy’n ceisio cyfyngu ar neu gael gwared ar ryddid y contractwr i ddatgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w pryderon
- bod staff clinigol yn deall eu dyletswydd i fod yn agored ac yn onest ynghylch digwyddiadau neu gwynion gyda chleifion a rheolwyr
- bod yr holl staff eraill yn cael eu hannog i fynegi pryderon sydd ganddynt efallai am ddiogelwch cleifion, gan gynnwys unrhyw risgiau y gallent fod yn cael eu hachosi gan gydweithwyr neu dimau
- bod staff sy’n mynegi pryder yn cael eu diogelu rhag gweithredu neu feirniadaeth annheg, gan gynnwys unrhyw anfantais neu ddiswyddo.
Am arweiniad ynghylch sefydlu systemau a pholisïau yn Lloegr, gweler Protect.
Yn yr Alban, gweler NHS Scotland, Implementing & Reviewing Whistleblowing Arrangements in NHSScotland PIN Policy (Mai 2011)
Ymchwilio i bryderon
Os ydych yn gyfrifol am ymchwilio i ddigwyddiadau neu gwynion, mae gennych gyfrifoldeb tuag at y sawl sy’n mynegi pryder. Rhaid i chi:
- eu diogelu rhag gweithredu neu feirniadaeth annheg, gan gynnwys unrhyw anfantais neu ddiswyddo
- dweud wrthynt pa gamau y maent wedi cael eu cymryd neu y byddant yn cael eu cymryd er mwyn atal y broblem rhag codi eto (os yw hyn yn berthnasol)
- amlinellu’r broses os nad ydynt yn fodlon gyda’r ymateb o hyd – er enghraifft, os ystyrir cwynion o fewn Rheoliadau Cwynion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Lloegr) 2009, y broses er mwyn cyfeirio’r pryder at Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd.
Os ydych yn gyfrifol am ymchwilio i ddigwyddiadau neu gwynion, dylech sicrhau hefyd:
- bod unrhyw ymchwiliad neu gamau a fydd yn cael eu cymryd o ganlyniad yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n cyd-fynd gyda’r gyfraith, gan gynnwys, er enghraifft, Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 19987
- eich bod yn meddu ar wybodaeth weithredol o’r gyfraith a’r gweithdrefnau perthnasol y cynhelir ymchwiliadau ac achosion cysylltiedig oddi tanynt
- bod y rhai sy’n cael eu hymchwilio yn cael eu trin mewn ffordd deg
- bod adroddiadau digwyddiadau niweidiol a digwyddiadau difrifol yn cael eu paratoi o fewn y sefydliad ac ar gyfer cyrff allanol perthnasol eraill
- bod argymhellion sy’n deillio o ymchwiliadau yn cael eu gweithredu neu’n cael eu cyfeirio at reolwyr uwch
- bod cleifion y maent yn gwneud cwyn yn cael ymateb prydlon, agored, adeiladol a gonest.
Am wybodaeth ynghylch Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/23.
Yn ogystal, rhaid i chi sicrhau bod cleifion sy’n dioddef niwed yn cael esboniad, a phan fo hynny’n briodol, eu bod yn cael ymddiheuriad.8
Am ragor o wybodaeth, trowch at Arfer meddygol da, paragraff 45, y mae ar gael trwy droi.
Help a chyngor
Os nad ydych yn siŵr ynghylch sut i ymateb i bryder, dylech gael cyngor gan:
- aelod o staff uwch, tîm rheoli eich sefydliad neu gydweithiwr diduedd arall
- eich swyddog cyfrifol neu, os ydych yn swyddog cyfrifol neu’n gyfarwyddwr meddygol, cynghorydd cyswllt cyflogwyr CMC9
- eich corff amddiffyn meddygol, coleg brenhinol neu gymdeithas broffesiynol megis BMA
- yr awdurdodau rheoleiddio perthnasol (megis y Comisiwn Ansawdd Gofal, CMC, neu reolyddion proffesiynol eraill)
- Protect.
Diweddarwyd ym mis Mehefin 2013 er mwyn adlewyrchu’r llwybrau mwyaf priodol er mwyn ceisio cyngor ar ôl cyflwyno’r broses ailddilysu.