Amddiffyn plant a phobl ifanc: Cyfrifoldebau pob meddyg

Cyfathrebu a chefnogaeth

Pwyntiau allweddol – pennod 3

  • Dylech wrando ar blant a phobl ifanc, ac ystyried eu safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau.
  • Dylech ddefnyddio dulliau cyfathrebu sy’n briodol i’ch grŵp o gleifion. Dylech wneud addasiadau rhesymol er mwyn darparu gwybodaeth y bydd plant, pobl ifanc a’u rhieni yn dymuno gwybod neu y bydd angen iddynt ei gwybod, mewn ffordd y gallant ei deall.
  • Dywedwch wrth blant, pobl ifanc a’u rhieni pan fydd gennych bryderon ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod, a sut y byddwch yn ymateb i’r pryderon hyn, oni bai y gallai gwneud hyn roi’r plentyn neu’r person ifanc, neu unrhyw un arall, mewn perygl o ddioddef niwed.
  • Dylech gael cyngor os nad ydych yn siŵr pa risgiau sy’n gysylltiedig gyda dweud wrth rieni am eich pryderon, a’r ffordd orau o reoli risgiau o’r fath.

Bodloni anghenion cyfathrebu

13

Mae bodloni anghenion cyfathrebu ac ieithyddol plant, pobl ifanc a rhieni yn bwysig mewn unrhyw agwedd ar ofal, ond mae’n arbennig o bwysig os ydych yn amau camdriniaeth neu esgeulustod. Os ydych yn gwybod ymlaen llaw y bydd pryderon amddiffyn plant yn cael eu trafod yn ystod ymgynghoriad, dylech sicrhau bod trefniadau wedi cael eu gwneud er mwyn bodloni anghenion cyfathrebu ac ieithyddol y plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, defnyddio cyfieithydd neu eiriolwr annibynnol. Os byddwch yn amau camdriniaeth neu esgeulustod, ni ddylech ddibynnu ar blant neu aelodau teuluol eraill i gyfieithu ar gyfer y rhieni, neu ddibynnu ar rieni i gyfieithu ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

14

Dylai fod modd i chi ddefnyddio dulliau cyfathrebu sy’n briodol i’ch grŵp o gleifion. Er enghraifft, os ydych yn cyfathrebu gyda phlant ifanc iawn neu bobl y mae ganddynt anableddau dysgu, dylech fod yn barod i ddefnyddio dulliau megis iaith sy’n briodol i’w hoedran, cardiau fflach neu arwyddion er mwyn cyfathrebu mewn ffordd effeithiol. Mae cyngor a chymorth gan sefydliadau y mae ganddynt wybodaeth arbenigol am anableddau penodol yn gallu’ch helpu i fodloni anghenion ieithyddol neu gyfathrebu plant, pobl ifanc neu rieni y mae ganddynt anableddau penodol.

Cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc

15

Mae plant a phobl ifanc yn unigolion y mae ganddynt hawliau y mae’n rhaid i chi eu parchu. Rhaid i chi wrando ar blant a phobl ifanc a siarad gyda nhw mewn ffordd uniongyrchol, gan ystyried eu hoedran a’u haeddfedrwydd. Rhaid i chi ateb eu cwestiynau mewn ffordd onest a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod pwy y gallant droi atynt am help neu gymorth (gweler Ffynonellau o gyngor ac cymorth annibynnol i rieni a theuluoedd am enghreifftiau o sefydliadau a all roi cyngor a chymorth).

16

Rhaid i chi ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc o ddifrif, a pheidio diystyru eu pryderon, eu hofnau neu eu safbwyntiau oherwydd eu hoedran. Hyd yn oed os na fydd plant yn ddigon aeddfed i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, mae eu safbwyntiau a’u dewisiadau yn bwysig i chi o hyd, ac mae’n rhaid i chi eu hystyried wrth asesu eu lles pennaf. Am ragor o gyngor, gweler paragraphs 14 – 21 0-18 oed: arweiniad i bob meddyg.8 

14

Mae cyfathrebu effeithiol rhwng meddygon a phlant a phobl ifanc yn hanfodol er mwyn darparu gofal da. Dylech ddarganfod yr hyn y mae plant, pobl ifanc a’u rhieni yn dymuno’i wybod a’r hyn y mae angen iddynt ei wybod, pa faterion sy’n bwysig iddynt, a pha safbwyntiau neu ofnau sydd ganddynt ynghylch eu hiechyd neu eu triniaeth. Yn arbennig, dylech:

  1. gynnwys plant a phobl ifanc mewn trafodaethau ynghylch eu gofal
  2. bod yn onest ac yn agored gyda nhw a’u rhieni, gan barchu eu cyfrinachedd ar yr un pryd
  3. gwrando ar eu safbwyntiau ynghylch eu hiechyd, a’u parchu, ac ymateb i’w pryderon a’u dewisiadau
  4. esbonio pethau gan ddefnyddio iaith neu ffurfiau cyfathrebu eraill y gallant eu deall
  5. ystyried sut yr ydych chi a sut y maen nhw yn defnyddio cyfathrebu nad yw’n gyfathrebu llafar, a’r amgylchedd lle y byddwch yn cyfarfod gyda nhw
  6. rhoi cyfleoedd iddynt ofyn cwestiynau ac ateb y rhain yn onest a hyd eithaf eich gallu
  7. gwneud popeth y gallwch i sicrhau bod modd cael trafodaeth agored a gonest, gan ystyried bod cyfranogiad rhieni neu unigolion eraill yn gallu helpu hyn neu rwystro hyn
  8. rhoi’r un amser a pharch iddynt ag y byddech yn ei roi i gleifion sy’n oedolion.
15

Dylech egluro eich bod ar gael i weld plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain os ydynt yn dymuno hynny. Dylech osgoi rhoi’r argraff (yn uniongyrchol, trwy staff y dderbynfa neu mewn unrhyw ffordd arall) na allant fanteisio ar wasanaethau pan na fyddant yn nghwmni rhiant. Dylech ystyried effaith y gall presenoldeb gwarchodwr5 ei gael, yn ofalus. Gall eu presenoldeb atal pobl ifanc rhag bod yn agored a gofyn am help.

16

Dylech ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc o ddifrif ac ni ddylech ddiystyru neu ymddangos fel pe baech yn diystyru eu pryderon neu eu cyfraniadau. Gall plant a phobl ifanc anabl yn arbennig, deimlo’u bod dan anfantais yn hyn o beth.

17

Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc yn dymuno cael gwybod am eu salwch, neu bydd angen iddynt gael gwybod am eu salwch a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd iddynt yn y dyfodol. Dylech ddarparu gwybodaeth sy’n hawdd i’w deall ac sy’n briodol i’w hoedran a’u haeddfedrwydd ynghylch:

  1. eu cyflwr
  2. diben ymchwiliadau a thriniaethau yr ydych yn eu cynnig a’r hyn y byddant yn ei olygu, gan gynnwys poen, anesthetig ac aros yn yr ysbyty
  3. y siawns y bydd gwahanol ddewisiadau o ran triniaethau yn llwyddo, gan gynnwys peidio cael triniaeth, a risgiau gweithgarwch o’r fath
  4. pwy fydd yn bennaf gyfrifol am eu gofal ac yn ymwneud ag ef
  5. eu hawl i newid eu meddwl neu i ofyn am ail farn.
18

Ni ddylech orlethu plant a phobl ifanc neu eu rhieni, a dylech roi gwybodaeth iddynt ar adeg ac ar gyflymder priodol, a sicrhau eu bod yn deall pwyntiau allweddol.

19

Dylech siarad yn uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc sy’n gallu cymryd rhan mewn trafodaethau am eu gofal, a gwrando arnynt. Mae’n gas gan bobl ifanc sy’n gallu deall yr hyn sy’n cael ei ddweud ac sy’n gallu siarad drostynt eu hunain, weld pobl yn siarad amdanynt pan fyddant yn bresennol. Ond efallai na fydd plant iau yn deall yr hyn y mae eu salwch neu’r driniaeth arfaethedig ar eu cyfer yn debygol o’i olygu, hyd yn oed pan gaiff ei esbonio iddynt mewn ffordd syml.

20

Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y dylech beidio cyfleu’r math o wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff paragraph 17 i blant neu bobl ifanc:

  1. os byddai’n achosi niwed difrifol iddynt (ac nid peri gofid iddynt yn unig, neu’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn gwrthod y driniaeth)
  2. byddant yn gofyn i chi beidio, oherwydd byddai’n well ganddynt i rywun arall wneud penderfyniadau ar eu rhan.
21

Mae gennych yr un ddyletswydd o ran cyfrinachedd gyda phlant a phobl ifanc ag y mae gennych gydag oedolion. Ond yn aml, bydd rhieni yn dymuno cael, a bydd angen iddynt gael, gwybodaeth am ofal eu plentyn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau neu ddarparu gofal a chymorth. Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc yn fodlon bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’u rhieni. Yn aml, bydd y broses hon o rannu gwybodaeth er budd pennaf plant a phobl ifanc, yn enwedig os byddai eu hiechyd yn elwa o gael gofal arbennig neu driniaeth barhaus, megis diet arbennig neu feddyginiaeth reolaidd. Fel arfer, y rhieni yw’r rhai gorau i benderfynu ynghylch yr hyn sydd er budd pennaf eu plant a dylent wneud penderfyniadau pwysig nes bydd eu plant yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Dylech rannu gwybodaeth berthnasol gyda rhieni yn unol â’r gyfraith a’r arweiniad a roddir ym mharagraffau paragraphs 27, 28 a 42 to 55.

8

Cyngor Meddygol Cyffredinol (2007) 0–18 oed: arweiniad i bob meddyg Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol

17

Mewn rhai achosion, gallai cael rhiant yn yr ystafell yn ystod ymgynghoriad atal plentyn neu berson ifanc rhag bod yn agored ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, neu ynghylch unrhyw bryderon neu ofnau sydd ganddynt. Yn yr amgylchiadau hyn, dylech ystyried siarad gyda’r plentyn neu’r person ifanc heb i’r rhiant fod yn bresennol, mewn amgylchedd addas a chan drefnu bod cymorth priodol ar gael iddynt – er enghraifft, trwy drefnu bod gweithiwr iechyd proffesiynol, cydweithiwr profiadol neu unigolyn cymorth arall yn bresennol.

Cyfathrebu gyda rhieni

18

Mae cyfathrebu da gyda rhieni yn hanfodol. Yn gyffredinol, mae rhieni yn dymuno sicrhau’r gorau i’w plant ac maent yn arbenigwyr wrth adnabod pan na fydd ymddygiad eu plentyn yn normal ac y gallai hyn fod oherwydd salwch. Dylech gydnabod dealltwriaeth rhieni o iechyd eu plant, yn enwedig pan fo oedran neu anabledd plentyn yn golygu ei bod yn anodd cyfathrebu gyda nhw.

19

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn niweidio plant yn eu gofal yn fwriadol. Ond mae nifer fach o rieni yn cam-drin neu’n esgeuluso eu plant ac ni fyddant yn onest wrth ddweud wrthych am ddigwyddiadau neu am eu ffordd o fyw. Rhaid i chi wrando’n ofalus ar rieni, plant a phobl ifanc, gan ymchwilio i ddisgrifiadau anghyson a chadw meddwl agored ynghylch achos anaf plentyn neu berson ifanc, neu unrhyw arwydd arall a allai awgrymu camdriniaeth neu esgeulustod.

20

Fel arfer, dylech drafod unrhyw bryderon sydd gennych am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc gyda’u rhieni. Ni ddylech ymatal rhag darparu gwybodaeth am eich pryderon, neu am benderfyniad i wneud cyfeiriad, oni bai eich bod o’r farn y gallai dweud wrth y rhieni gynyddu risg niwed i’r plentyn neu’r person ifanc neu i unrhyw un arall. Os bydd yn anodd i chi benderfynu ar hyn neu os nad ydych yn siŵr ynghylch y ffordd orau o ddelio gyda’r sefyllfa, dylech ofyn am gyngor gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol, neu os na fyddant ar gael, dylech ofyn am gyngor cydweithiwr profiadol.

21

Wrth drafod eich pryderon gyda rhieni, dylech esbonio bod gan feddygon ddyletswydd broffesiynol i fynegi eu pryderon os byddant o’r farn bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Dylech esbonio’r camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd, gan gynnwys os byddwch yn penderfynu cysylltu â gwasanaethau plant yr awdurdod lleol. Dylech roi’r wybodaeth hon i’r rhieni pan fyddwch yn dechrau pryderu am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc, a thrwy gydol cyswllt teulu gyda gweithdrefnau amddiffyn plant.

22

Rhaid i chi barhau i hysbysu rhieni am yr hyn sy’n digwydd, gan gynnig cyfleoedd iddynt i ofyn cwestiynau, ac mae’n rhaid i chi fod yn fodlon ateb eu cwestiynau mewn ffordd agored a gonest. Mae bod yn agored ac yn onest gyda theuluoedd pan fynegir pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn neu berson ifanc, ac osgoi sylwadau sy’n barnu neu feio rhywun, yn gallu annog teuluoedd i gydweithredu ac i helpu plant a phobl ifanc i aros gyda’u teuluoedd ac i fod yn ddiogel yno. Dylech roi gwybodaeth i rieni ynghylch ble y mae modd iddynt gael cyngor annibynnol a chymorth ychwanegol (gweler Ffynonellau o gyngor ac cymorth annibynnol i rieni a theuluoedd am enghreifftiau o sefydliadau a all roi cyngor a chymorth).