Amddiffyn plant a phobl ifanc: Cyfrifoldebau pob meddyg

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys wyth egwyddor arweiniol. Maent yn archwilio sut gallwch chi sicrhau bod plant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o niwed yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Bydd y canllawiau’n eich helpu i wybod beth i’w wneud os byddwch chi’n canfod plant sydd mewn perygl o gael, neu sydd yn cael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Maent yn eich annog i weithio mewn partneriaeth â rhieni ac eraill, ac yn darparu fframwaith i’w ddilyn pan fydd angen i chi rannu gwybodaeth.

Daeth y canllawiau hyn i rym ar 3 Medi 2012. Cawsant eu diweddaru ar 25 Mai 2018 i adlewyrchu gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.