Gwneud penderfyniadau a chydsynio
Mae cydsynio a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn elfennau hanfodol o arfer meddygol da.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro bod cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau da. Gall niwed difrifol ddigwydd pan na fyddwn yn gwrando ar gleifion, neu os nad ydynt yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt - ac amser a chefnogaeth i'w deall - er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.
Bydd y canllawiau hyn yn eich cefnogi yn eich sgyrsiau â’ch cleifion ac yn eich helpu i fod yn hyderus eich bod yn rhannu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau sy’n addas iddyn nhw. Drwy eu dilyn, byddant yn eich helpu i sicrhau eich bod wedi cael cydsyniad gwybodus gan eich claf.
Maent yn cynnwys cyngor ar y canlynol:
- Beth ddylech chi ei ddweud wrth glaf wrth siarad am risgiau.
- Beth i’w wneud os nad yw eich claf eisiau clywed gwybodaeth sy’n berthnasol yn eich barn chi.
- Beth i’w wneud os nad yw eich claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad
- Beth ddylech chi ei gofnodi.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 09 Tachwedd 2020.
Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2024.