Egwyddorion
Cydraddoldeb a hawliau dynol
Rhaid i chi roi gofal o’r un ansawdd i gleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, ag y byddwch yn ei roi i bob claf arall. Rhaid i chi drin cleifion a’r rhai sy’n agos atynt gydag urddas, parch a thrugaredd, yn enwedig pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd a phenderfyniadau anodd ynghylch gofal. Rhaid i chi barchu eu preifatrwydd a’u hawl i gyfrinachedd.
Mae rhai grwpiau o gleifion yn gallu wynebu anghydraddoldeb wrth geisio manteisio ar wasanaethau gofal iechyd ac o ran ansawdd y gofal a ddarparir. Mae’n hysbys bod rhai pobl hŷn, pobl y mae ganddynt anableddau a phobl o leiafrifoedd ethnig wedi cael gofal o safon wael tuag at ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn gallu bod o ganlyniad i rwystrau corfforol, rhwystrau cyfathrebu a rhwystrau eraill, a chredoau anghywir neu ddiffyg gwybodaeth ymhlith y rhai sy’n darparu gwasanaethau, ynghylch anghenion a buddiannau’r claf. Mae cyfreithiau cydraddoldeb, galluedd a hawliau dynol yn ategu’ch dyletswydd foesegol i drin cleifion mewn ffordd deg.
Os ydych yn cymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes rhywun, rhaid i chi fod yn ymwybodol o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’i phrif
ddarpariaethau, gan ei bod yn debygol y bydd eich penderfyniadau chi yn ymwneud â’r egwyddorion a’r hawliau sylfaenol a nodir yn y Ddeddf.5
Mae’r atodiad cyfreithiol yn cynnig esboniad am hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd a gynhwysir yn y Ddeddf, ac y maent yn cyfateb â’r rhai mwyaf perthnasol i benderfyniadau a wneir ar ddiwedd oes.
Rhagdybiaeth o blaid estyn bywyd
Gan ddilyn egwyddorion moesegol a chyfreithiol sefydledig (gan gynnwys hawliau dynol), ni ddylai penderfyniadau sy’n ymwneud â thriniaethau a allai ymestyn bywyd gael eu cymell gan ddymuniad i weld marwolaeth y claf, ac mae’n rhaid iddynt gychwyn gyda rhagdybiaeth o blaid estyn bywyd. Fel arfer, bydd y rhagdybiaeth hon yn gofyn i chi gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn ymestyn bywyd claf. Fodd bynnag, ni cheir rhwymedigaeth ddiamod i ymestyn bywyd beth bynnag fo’r canlyniadau i’r claf, a beth bynnag fo safbwyntiau’r claf, os yw’r rhain yn hysbys, neu pan fo modd eu canfod.
Rhagdybiaeth ynghylch galluedd
Rhaid i chi weithio ar sail y ragdybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal a’u triniaeth. Ni ddylech gymryd yn ganiataol nad yw claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad y mae eraill yn anghytuno gydag ef neu y maent yn ei ystyried yn benderfyniad annoeth, yn unig.
Cynyddu galluedd i wneud penderfyniadau gymaint ag y bo modd
Os allai galluedd claf i wneud penderfyniad gael ei amharu, rhaid i chi gynnig yr holl help a’r cymorth priodol i’r claf er mwyn cynyddu eu gallu i ddeall, i gofio, i ddefnyddio neu i bwyso a mesur y wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn eu galluogi i wneud y penderfyniad hwnnw neu er mwyn cyfleu eu dymuniadau. Rhaid i chi asesu eu galluedd i wneud pob penderfyniad, ar yr adeg pan fydd angen ei wneud. Mae modd i chi weld arweiniad manwl ynghylch asesu a chynyddu galluedd claf gymaint ag y bo modd trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, ac yn y codau ymarfer sy’n cefnogi Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.6
Mae modd gweld gwybodaeth am y ddeddfwriaeth hon, y codau ymarfer cefnogol ac arweiniad cysylltiedig yn yr atodiad cyfreithiol.
Budd cyffredinol
Os ydych chi neu eraill o’r farn nad yw oedolyn yn meddu ar alluedd i benderfynu, rhaid i’r penderfyniadau y byddwch chi neu eraill yn eu gwneud ar ran y claf gael eu seilio ar yr ystyriaeth ynghylch a fyddai’r driniaeth yn cynnig budd cyffredinol i’r claf (gweler paragraphs 40 - 46 am ragor ynghylch asesu budd cyffredinol), a pha ddewis (gan gynnwys y dewis o beidio darparu triniaeth) fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol. Pan fyddwch chi’n gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch budd cyffredinol, rhaid i chi ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf heb alluedd, er mwyn eich helpu i ffurfio barn (gweler paragraphs 15 - 16).
Rhaid pwyso a mesur manteision triniaeth a allai ymestyn bywyd, gwella cyflwr claf neu reoli eu symptomau, yn erbyn y beichiau a’r risgiau i’r claf hwnnw, cyn y gallwch ffurfio barn ynghylch ei gallu i gynnig budd iddynt. Er enghraifft, efallai na fydd o fudd i glaf gael triniaethau a allai ymestyn bywyd, ond sy’n feichus, yn ystod diwrnodau olaf eu hoes, pan fo ffocws y gofal yn newid o gynnig triniaeth weithredol, i reoli symptomau’r claf a’u cadw’n gyffyrddus.
Nid yw’r manteision, y beichiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thriniaeth wedi’u cyfyngu i ystyriaethau clinigol bob amser, a dylech fod yn ofalus wrth ystyried y ffactorau eraill sy’n berthnasol i amgylchiadau pob claf.
Bydd cleifion sy’n meddu ar alluedd yn ffurfio’u barn eu hunain ynghylch y ffactorau personol y maent yn dymuno’u hystyried a’r pwys y maent yn dymuno’i roi ar y rhain, ochr yn ochr â’r ystyriaethau clinigol. paragraph 14)
Yn achos cleifion heb alluedd, bydd eu dirprwy cyfreithiol yn ffurfio’r barnau hyn ar ôl cael cyngor gennych chi ac eraill sy’n ymwneud â gofal y claf. Os ydych chi yn gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch budd cyffredinol, mae’n debygol y bydd y rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau’r tîm gofal iechyd yn meddu ar wybodaeth ynghylch dymuniadau, gwerthoedd a dewisiadau ac unrhyw ffactorau personol eraill y dylid eu hystyried. (Gweler y model ar gyfer gwneud penderfyniadau ym paragraph 16.) Yn ogystal, efallai y bydd modd i chi weld gwybodaeth am ddymuniadau’r claf yn eu nodiadau, yn eu cynllun gofal ymlaen llaw neu mewn cofnod arall, megis cais ymlaen llaw am driniaeth neu benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth.
Efallai na fydd rhai cleifion, a’r rhai sy’n agos iddynt, yn ymwybodol o ystod y gwasanaethau a’r triniaethau sydd ar gael iddynt, ac fe allai hyn gael effaith ar y dewisiadau a fyddai’n cynnig budd iddynt yn eu barn nhw. Dylech deimlo’n fodlon bod y claf yn meddu ar wybodaeth a chymorth digonol er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth fanteisio ar ofal a thriniaeth fuddiol.
Gallai fod yn arbennig o anodd ffurfio barn ynghylch budd cyffredinol triniaeth os yw’r claf yn cael problemau wrth gyfleu eu dymuniadau a’u dewisiadau, neu pan fyddant heb alluedd. Mewn achosion o’r fath, ni ddylech ddibynnu ar eich gwerthoedd chi neu werthoedd y bobl hynny yr ymgynghorwyd â nhw ynghylch y claf. Dylech gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn cynyddu gallu’r claf i gymryd rhan yn y broses o benderfynu gymaint ag y bo modd. Gallwch weld cyngor manwl ynghylch y ffordd o fynd ati yn hyn o beth trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd..
Rhaid i chi fod yn ofalus na fyddwch yn dibynnu ar eich safbwyntiau personol ynghylch ansawdd bywyd claf, gan osgoi ffurfio barn ar sail tybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth sydd ymhell o fod yn dda ynghylch anghenion gofal iechyd grwpiau penodol, megis pobl hŷn a’r rhai sydd ag anableddau.
Os byddwch yn asesu nad yw claf yn meddu ar alluedd8 i wneud penderfyniad, rhaid i chi:
a. fod yn eglur ynghylch pa benderfyniadau y mae angen eu gwneud am driniaeth a gofal
b. Gwirio pwy sy’n meddu ar y cyfrifoldeb dros benderfynu pa ddewis fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf, gan sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i ddarganfod:
- a oes unrhyw dystiolaeth o werthoedd a dewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol, y gallent fod yn gyfreithiol rwymol, megis gwrthod triniaeth ymlaen llaw
- a oes rhywun arall yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf neu wedi cael eu penodi i’w cynrychioli. *[neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)]. Dylech gofio nad yw’r pwerau y bydd dirprwy cyfreithiol9 yn meddu arnynt yn cynnwys pob math o driniaeth efallai, felly dylech chi archwilio cwmpas eu hawdurdod er mwyn gwneud penderfyniad10
c. Os nad oes tystiolaeth o benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, sy’n gyfreithiol rwymol, ac nid oes gan unrhyw un awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad hwn ar ran y claf,*neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)] yna, os mai chi sydd â’r prif gyfrifoldeb dros driniaeth a gofal y claf, rydych chi’n gyfrifol am benderfynu ar yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol iddynt11 .
Wrth wneud hyn, rhaid i chi:
- ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, gan ystyried eu safbwyntiau ynghylch yr hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, gan geisio dod i gytundeb gyda nhw
- ystyried pa ddewis sy’n cyd-fynd agosaf ag anghenion, dewisiadau, gwerthoedd a blaenoriaethau’r claf
- ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol
Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:
- Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr.
- Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
- Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
- Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
- Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
- Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
- Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
- Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
- Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.