Arfer meddygol da
Mae Arfer meddygol da yn nodi’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau gofal ac ymddygiad a ddisgwylir gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol.
Mae'n cynnwys meysydd:
- sicrhau mai gofal cleifion yw’r pwysigrwydd cyntaf
- darparu safon dda o ymarfer a gofal, a gweithio o fewn cymhwysedd
- gweithio mewn partneriaeth â chleifion a’u cefnogi i wneud penderfyniadau am eu gofal ar sail gwybodaeth
- trin cydweithwyr â pharch a helpu i greu amgylchedd sy’n dosturiol, cefnogol a theg
- gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb a bod yn agored os aiff pethau o’i le
- diogelu a hybu iechyd cleifion a’r cyhoedd
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.