Creu a defnyddio recordiadau sain a gweledol o gleifon
Yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, rydym yn nodi:
8. Mae cyfnewid gwybodaeth rhwng meddyg a chlaf yn rhan ganolog o wneud penderfyniadau da. Yn ystod y broses hon y gallwch ddarganfod yr hyn sy’n bwysig i’r claf, fel y gallwch nodi’r wybodaeth y bydd angen iddynt ei chael er mwyn gwneud y penderfyniad.
9. Diben y deialog yw:
- helpu’r claf i ddeall eu rôl nhw yn y broses, a’u hawl i ddewis a ydynt yn mynd i gael triniaeth neu ofal neu beidio
- sicrhau bod y claf yn cael y cyfe i ystyried gwybodaeth berthnasol a allai ddylanwadu ar eu dewis rhwng y dewisiadau sydd ar gael
- ceisio dod i ddealltwriaeth a rennir o ddisgwyliadau a chyfyngiadau’r dewisiadau sydd ar gael.
Yn ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifon, rydym yn dweud:
1. Mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng meddyg a chlaf ac mae cyfrinachedd yn ganolog i hyn. Efallai y bydd cleifon yn osgoi ceisio help meddygol neu efallai na fyddant yn rhoi disgrifad llawn o’u symptomau os byddant yn credu y bydd meddygon yn datgelu2 eu gwybodaeth bersonol heb eu caniatâd, neu os na fyddant yn cael y cyfe i gael rhywfaint o reolaeth dros yr amseru neu swm y wybodaeth a rennir.
2. Mae dyletswyddau moesegol a chyfreithiol ar feddygon i ddiogelu gwybodaeth cleifon rhag cael ei datgelu mewn ffordd amhriodol. Ond mae rhannu gwybodaeth briodol yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Gall cleifon fod mewn perygl os na fydd modd i’r rhai sy’n darparu eu gofal droi at wybodaeth berthnasol a manwl, a’r wybodaeth ddiweddaraf, amdanynt.
3. Yn ogystal, ceir defnydd pwysig o wybodaeth cleifon at ddibenion ac eithrio dibenion gofal uniongyrchol. Mae rhai o’r rhain yn gysylltiedig â gofal cleifon mewn ffordd anuniongyrchol gan eu bod yn galluogi gwasanaethau iechyd i weithredu mewn ffordd effeithlon a diogel. Er enghraifft, defnyddir symiau mawr o wybodaeth cleifon at ddibenion megis gwaith ymchwil meddygol, cynllunio gwasanaethau ac archwilio ariannol. Nid yw mathau eraill o ddefnydd yn gysylltiedig â darparu gofal iechyd yn uniongyrchol, ond maent yn cynnig budd ehangach i’r cyhoedd, megis datgeliadau am resymau sy’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd.
4. Mae rolau meddygon yn parhau i esblygu a newid. Mae’n debygol y bydd yn fwy heriol sicrhau bod sail gyfreithiol a moesegol dros ddefnyddio gwybodaeth cleifon mewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth nag yng nghyd-destun perthynas unigol rhwng meddyg a chlaf.
Diben yr arweiniad esboniadol hwn yw cynnig cyngor manylach ynghylch sut i gydymffurfo gyda’r egwyddorion hyn wrth greu neu ddefnyddio recordiadau sain a gweledol o gleifon.
Er mwyn cynnal eich trwydded i wneud gwaith meddygol, rhaid i chi ddangos, trwy’r broses ailddilysu, eich bod yn gweithio yn unol ‘r egwyddorion a’r gwerthoedd a nodir yn yr arweiniad hwn. Dim ond methiant difrifol neu barhaus i ddilyn ein harweiniad, sy’n peryglu diogelwch y cyhoedd neu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn meddygon, fydd yn peryglu’ch cofrestriad.